Skip to main content

Dysgu a Datblygu Lefel 3 – Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Yn bennaf, mae’r cwrs Dysgu a Datblygu ar gyfer unigolion sydd newydd ddechrau hyfforddi ac asesu ac sydd eisiau sicrhau cymhwyster achrededig i gefnogi datblygiad eu harfer proffesiynol.

Gwybodaeth allweddol

Gellir cyflwyno’r brentisiaeth ar sail un-i-un neu mewn grŵp, yn dibynnu ar anghenion y sefydliad a’r dysgwyr. Mae cyllid ar gael drwy’r fframwaith prentisiaethau (yn amodol ar argaeledd).

Unedau

Mae’r brentisiaeth yn cynnwys pum uned:

  • Deall egwyddorion ac arferion dysgu a datblygu
  • Cynllunio a pharatoi cyfleoedd dysgu a datblygu penodol
  • Datblygu a pharatoi adnoddau dysgu a datblygu
  • Myfyrio ar arferion dysgu a datblygu personol a’u gwella 

Gall ddysgwyr ddewis un o’r unedau isod:

  • Hwyluso dysgu a datblygu mewn grwpiau
  • Hwyluso dysgu a datblygu i unigollion

Cymhwyster Lefel 3 mewn Paratoi ar gyfer addysgu yn y sector gydol oes neu TAR.

I gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau llyfr gwaith sy’n ymdrin â damcaniaethau, ymarfer ac egwyddorion dysgu a datblygu, cyn symud ymlaen i gynllunio sesiynau a pharatoi adnoddau.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu harsylwi yn cyflwyno sesiynau i grwpiau/unigolion mewn amgylchedd seiliedig ar waith, yn ogystal ag asesu eu sgiliau a’u gwybodaeth eu hunain. Bydd hefyd gofyn iddynt baratoi cynllun datblygu personol a chynnal dyddiadur myfyriol er mwyn cofnodi arferion da ac arferion y gellir eu gwella.