Gwyddoniaeth Gymhwysol HNC
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau cemegol a chysylltiedig i lwyddo mewn cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau, technegau a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Gwybodaeth allweddol
Un o’r canlynol:
- Diploma Mynediad i AU – Pas
- Safon Uwch – DD
- BTEC Diploma Estynedig L3 – PPP
- BTEC Diploma L3 90-Credyd – MM.
Gwyddorau Cymhwysol (Llwybr Cemeg)
Blwyddyn 1
Uned 1: Hanfodion Technegau Labordy (Gorfodol)
Uned 2: Dulliau Gweithredu a Thechnegau Trin Data Gwyddonol (Gorfodol)
Uned 7: Cemeg Anorganig (Gorfodol)
Uned 8: Cemeg Organig (Gorfodol)
Blwyddyn 2
Uned 3: Rheoleiddio ac Ansawdd yn y Gwyddorau Cymhwysol (gosodir gan Pearson)
Uned 9: Cemeg Ffisegol
Uned 64: Ymchwiliad Seiliedig ar Waith
Uned 73: Llygryddion Amgylcheddol a Phrofion Dŵr
Dilyniant i radd mewn cemeg gymhwysol neu faes cysylltiedig.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://qualifications.pearson.com/content/dam/pdf/Support/policies-for-centres-learners-and-employees/recognition-of-prior-learning-and-process-policy.pdf
Y ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs hwn yw £1,200 y flwyddyn.
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs h.y. Teithio i ac o’r Coleg neu’r lleoliad Costau llungopïo, nwyddau ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach) Argraffu a rhwymo Gynau ar gyfer seremonïau graddio
I gael gwybodaeth gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk