Skip to main content

Microgymhwyster mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol ar gyfer Diwydiant

Rhan-amser
Lefel 4
Tycoch, Online
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

NEWYDD ar gyfer 2024

Logo Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae’r modiwl hwn yn archwilio anghenion dysgu ychwanegol (ADY) o safbwynt hanesyddol a chanllawiau cyfredol y llywodraeth. Mae ganddo ffocws clir ar effaith y ddeddfwriaeth hon ar ymarfer.

Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ac sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd â diddordeb byw yn y pwnc. Mae’n dechrau trwy gyflwyno hanes ADY a chynhwysiant cyn mynd ymlaen i edrych ar ddeddfwriaeth, rolau a chyfrifoldebau unigolion a sefydliadau. Mae gan y modiwl ffocws ymarferol parhaus a fydd yn rhoi modd i chi ddatblygu eich arferion mewn amgylchedd gwaith.

Mae’n cael ei addysgu gan Goleg Gŵyr Abertawe a’i achredu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’n fodiwl Lefel 4, gwerth 20 credyd, ac yn gymhwyster annibynnol. Mae’r cwrs yn cyfrif tuag at ofynion datblygiad proffesiynol parhaus, gan wella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol yn unol â safonau addysgol cyfredol.

Nod y modiwl yw:

  • Archwilio datblygiadau hanesyddol ym meysydd cynhwysiant, anabledd ac ADY
  • Datblygu dealltwriaeth o brif nodweddion ADY, anabledd a chynhwysiant mewn amrywiaeth o gyd-destunau  
  • Archwilio egwyddorion cynhwysiant ac effaith damcaniaeth a deddfwriaeth ar ymarfer proffesiynol   
  • Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau amrywiol sy’n berthnasol i gysyniadau proffesiynol a chyflogaeth ar lefel gradd, gan gynnwys y sgiliau sydd eisoes yn cael eu datblygu trwy gynnwys y cwrs a’r rhai trwy brofiad blaenorol.

The module learning outcomes: 

  1. Dadansoddi deddfwriaeth a pholisi allweddol 
  2. Cymhwyso deddfwriaeth a pholisïau allweddol i rolau ymarferwyr, sefydliadau ac eraill sy’n cynorthwyo dysgwyr ag ADY
  3. Nodi a gwneud sylwadau ar ddamcaniaethau a chysyniadau allweddol ym meysydd anghenion dysgu ychwanegol, anabledd a chynhwysiant
  4. Nodi strategaethau i ateb anghenion unigol plant, pobl ifanc a/neu oedolion yn eu lleoliadau addysgol
  5. Cwblhau tasgau ysgrifennu academaidd i’r lefel briodol.

Gwybodaeth allweddol

Mynediad safonol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol ond mae’n bosibl y bydd cymwysterau eraill nad ydynt yn y rhestr yn cael eu derbyn ar sail unigol:

  • Cynnig Safon Uwch arferol: DD   
  • Cynnig BTEC arferol: proffil BTEC perthnasol ar Lefel 3 Teilyngdod/Pasio neu Basio/Pasio/Pasio  
  • Cynnig Bagloriaeth Cymru arferol: Graddau C a DE Safon Uwch   
  • Cynnig Mynediad i AU arferol: Diploma Pasio gyda 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, i gyd yn raddau pasio.

Mynediad ansafonol

Bydd Arweinydd y Rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen yn ystyried ymgeiswyr unigol nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau mynediad sylfaenol arferol, e.e. myfyrwyr hŷn â phrofiad o gyflogaeth berthnasol.

Rhan-amser:

  • 15 awr o ddysgu ar Gampws Tycoch 
  • 10 awr o ddarlithoedd ar-lein 
  • 25 awr o ddysgu ar-lein dan gyfarwyddyd.

Mae ymrwymiad ychwanegol i astudio a chwblhau gwaith aseiniad a bydd hwn yn cael ei gefnogi gan eich darlithydd.

Asesu:

  • Aseiniad 1: Portffolio – cyfwerth â 2,000 o eiriau [50%]
  • Aseiniad 2: Asesiad ysgrifenedig – 2,000 o eiriau [50%]

Mae’r cwrs hwn yn cael ei raddio mewn canrannau yn unol â safonau Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae microgymwysterau yn gymwysterau annibynnol i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant neu’r rhai a hoffai weithio yn y diwydiant. Mae microgymwysterau eraill yn y Coleg y gallwch wneud cais amdanynt, er enghraifft Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma.

Addysgir y cwrs hwn ar-lein ac wyneb yn wyneb er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel uwch.

Costau’r cwrs

£660 ond mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio y tu allan i Abertawe.  

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Ddim yn berthnasol i’r cwrs hwn gan mai cwrs byr ydyw at ddiben penodol.

Cysylltu â ni:

Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098

E-bost: he@gcs.ac.uk