Skip to main content

Triniaethau Micro Dermabrasion Lefel 3 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 3
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
10 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i gyflawni triniaeth micro dermabrasion i wella edrychiad a chyflwr croen y wyneb a’r corff.  Er mwyn astudio’r uned hon bydd angen i chi gynnal gweithdrefnau iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. 

  • Darparu micro dermabrasion  
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu â nhw mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch 
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

Gwybodaeth allweddol

  • Byddwn yn derbyn cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch 
  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys gweithio mewn salonau harddwch masnachol, sbas, llongau mordeithio, neu weithio’n annibynnol, yn hunangyflogedig, fel gweithiwr symudol neu gartref. 

Rhaid i ddysgwyr brynu gwisg fel rhan o’u cwrs.   

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.