Skip to main content

Diweddariad i’r holl fyfyrwyr – 12 Chwefror

O ddydd Llun 22 Chwefror, bydd ein campysau ar agor i nifer fach o fyfyrwyr galwedigaethol yn unig.

Yn ystod y cam cyntaf hwn, mae’n debygol mai’r myfyrwyr hyn fydd y rhai sy'n astudio cyrsiau peirianneg, adeiladu, arlwyo a chyfrifeg (AAT) sydd â chymwysterau ac iddynt elfen angen trwydded i ymarfer.

Hefyd bydd nifer fach o fyfyrwyr yn cael eu hysbysu i ddod i mewn i’r Coleg i wneud asesiadau hanfodol na ellir eu gwneud ar-lein nac o bell, a all gynnwys prentisiaethau technegydd labordy a rhywfaint o wyddoniaeth alwedigaethol gymhwysol.

Byddwn yn cysylltu â'r myfyrwyr a wahoddir i ddychwelyd yn uniongyrchol ac yn fuan.

Bydd dysgu ar-lein yn parhau fel arfer i bob myfyriwr arall.

Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio info@gcs.ac.uk neu ffonio 01792 284000.