Skip to main content
An international student sitting at a dining table while their host serves them food

‘Cartref oddi cartref’ i fyfyrwyr rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe

Gallwch chi fod yn deulu croesawu i’n myfyrwyr rhyngwladol? Sgroliwch i'r gwaelod am fwy o wybodaeth!

Daw myfyrwyr rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe, sydd rhwng 16 a 18 oed, o wledydd o bedwar ban byd. Eleni, mae gan y Coleg fyfyrwyr o Gambodia, Tsieina, Yr Almaen, Hong Kong, Iran, Yr Eidal, Rwmania, Rwsia, De Corea, Taiwan, Emiradau Unedig Arabaidd a Fietnam. 

Mae Homestay yn golygu mwy na byw mewn cartref rhywun fel gwestai, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn un o’r teulu drwy gymryd rhan yn eu trefn ddyddiol nhw, fel cael cinio gyda’r teulu. Mae hyn yn eu helpu i deimlo’n fwy cartrefol ac mae hefyd yn ffordd ardderchog i’r myfyrwyr brofi diwylliant Prydeinig a gwella eu sgiliau iaith Saesneg, sydd yn hollbwysig ar gyfer eu hastudiaethau a’u llwyddiant yn y Coleg. 

Mae’r Coleg yn anelu at sicrhau bod y myfyriwr a’r teulu croesawu yn gweddu i’w gilydd yn dda. Maen nhw’n eu cyflwyno i’w gilydd cyn cyrraedd yn y wlad fel y gallant drafod eu hoffterau, eu casbethau a’u diddordebau. 

Mae teuluoedd Homestay yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y myfyriwr, y Coleg a’u teuluoedd gartref ac yn eu cynorthwyo i ennill annibyniaeth a’r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau pellach a bywyd prifysgol yn y DU.

Teuluoedd Homestay

Mae Sue a Keith Dinnage a Sue Morris yn rhannu eu profiad o fod yn deuluoedd Homestay i ddau fyfyriwr o Fietnam a Tsieina.

Sue Dinnage

Closeup of the couple smiling at the camera

“Cawson ni’r pleser o fod yn deulu Homestay am sawl blwyddyn ac mae wedi bod yn brofiad buddiol iawn. Rydyn ni’n mwynhau rhannu gwybodaeth o’n diwylliant a’n mamwlad, mae’n brofiad sy’n dangos be’ ydy be’. Mae’r Coleg yn darparu cymorth ardderchog i’r myfyrwyr a theuluoedd Homestay gyda nifer o bwyntiau cyswllt.”

Sue Morris

Closeup of Sue smiling at the camera

Mae darparu llety Homestay wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Mae’r holl fyfyrwyr sydd wedi aros gyda mi wedi dod o wledydd Asia ac mae’n ddiddorol dysgu am y diwylliannau gwahanol. Byddwn i’n argymell i unrhyw un fod yn deulu croesawu nid yn unig er lles y myfyriwr ond i chi’ch hun hefyd. Mae’n braf rhoi cartref i bobl ifanc o dramor sydd efallai bant o’u cartrefi am y tro cyntaf.”

Nguyen Nghi (Ivy), A Level student

Ivy sitting down, smiling at the camera

“Mae fy amser i yn Abertawe wedi bod yn dipyn o agoriad llygad hyd yma o ran bod yn annibynnol, yn weithgar ac yn llawn cymhelliant ar gyfer y dyfodol. Mae Mrs. Morris a’i theulu wedi rhoi croeso cynnes iawn i mi ac mae hi bob amser yn ymdrechu i wneud i mi deimlo’n gartrefol. Mae hi wedi rhoi llawer o gymorth a gofal i mi ac mae hi hefyd yn fodlon treulio amser yn gwrando arna i’n siarad, ac yn mynd â mi i’r eglwys leol bob penwythnos. Mae fy nheulu i’n meddwl y byd ohoni. Diolch i chi Mrs. Morris, a’ch teulu a phob cariad i chi i gyd.”

Allwch chi fod yn deulu croesawu i’n myfyrwyr rhyngwladol?

Mae angen teuluoedd arnom ar gyfer carfan mis Medi/Hydref!

Rydyn ni’n edrych am deuluoedd Homestay croesawgar a chyfeillgar i gynnig llety a phrydau bwyd i fyfyrwyr rhyngwladol 16-18 oed yn ardaloedd cod post SA2, SA3 a SA4. Gellir teuluoedd cael hyd at £150 yr wythnos.

Byddai rhaid darparu brecwast a phrydau fin nos, gyda chinio ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am deuluoedd Homestay ar gyfer rhaglenni tymor byr, megis Ysgol Gaeaf/Haf a hyfforddiant athrawon.

Ffoniwch y tîm rhyngwladol ar 01792 284007 neu e-bostiwch international@gcs.ac.uk i gael manylion pellach.