Skip to main content
Carys ag Alpha yn dala baneri 'Humber Global Summer School'

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau ysgoloriaethau ar gyfer Ysgol Haf Fyd-eang 2023

Yn eu hymrwymiad i faethu profiadau dysgu byd-eang, mae Colegau Cymru wedi dewis dau fyfyriwr rhagorol, Carys ac Alpha, i gychwyn taith addysgol gyffrous. Mae’r unigolion talentog hyn wedi ennill ysgoloriaethau i gymryd rhan mewn Ysgol Haf Fyd-eang am dair wythnos yng Ngholeg Humber, Toronto, gan ganolbwyntio ar faes cyfareddol podledu. Bydd y cyfle unigryw hwn yn rhoi modd i Carys ac Alpha ehangu eu gorwelion, datblygu sgiliau newydd, a rhwydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant podledu. 
 
Yn ystod yr Ysgol Haf Fyd-eang, bydd Carys ac Alpha yn ymchwilio i fyd hynod ddiddorol podledu. Bwriad y rhaglen, sydd â’r enw addas ‘The Podcast Primer’ yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes podledu i fyfyrwyr, o greu cynnwys a thechnegau cynhyrchu i hanfodion adrodd straeon clywedol. 
 
Mae Rhaglen yr Ysgol Haf Fyd-eang yn cynnwys:  

  • Cyrsiau drwy brofiad sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd wedi’u haddysgu gan arbenigwyr diwydiant profiadol a chyfadrannau Humber 
  • Cymorth personol  
  • Amserlen gymdeithasol lawn y tu allan i’r dosbarth, gan gynnwys derbyniad croesawu, taith o gwmpas dinas Toronto, taith i raeadr Niagara, gêm pêl-fas Bluejays, Treetop Trekking, a llawer mwy 
  • Trawsgrifiad Humber swyddogol, am gwrs uned 3.0 credyd (6 ECTS), a thystysgrif cwblhau ar gyfer CV pob cyfranogwr a LinkedIn. 

Meddai Ruth Owen Lewis, Pennaeth yr Adran Ryngwladol “Dwi wrth fy modd bod Alpha a Carys wedi bachu ar y cyfle hwn i fynychu’r Ysgol Haf yng Ngholeg Humber, Toronto – byddan nhw’n cael amser gwych, mae’n siŵr. 

“Cynigiodd Coleg Humber ysgoloriaeth lawn i Golegau Cymru ar gyfer dau fyfyriwr o Gymru, ac rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i sicrhau’r ddau le i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe. Mae’r Coleg yn cydnabod y gwerth aruthrol y mae gweithgareddau rhyngwladol fel hyn yn ei ddarparu, o ran creu dinasyddion byd-eang sy’n gwerthfawrogi’r byd yn gyffredinol. 

Ychwanegodd Ruth “Mae materion rhyngwladol yn parhau i fod ar frig yr agenda yn y Coleg. Yn gynharch eleni, enillodd y Coleg Wobr Beacon nodedig am Ryngwladoli, a noddwyd gan y Cyngor Prydeinig.” 
 
Mae Ardal Toronto Fwyaf yn gartref i dros chwe miliwn o Ganadiaid. Toronto yw’r ddinas fwyaf amrywiol amlddiwylliannol ar y blaned, gyda thros 140 o ieithoedd yn cael eu siarad yno. Amcangyfrifir bod dros hanner trigolion Toronto wedi cael eu geni y tu allan i Ganada ac er gwaethaf ei gwneuthuriad cymhleth, arwyddair y ddinas yw “Amrywiaeth yw ein Cryfder”. Mae Toronto yn ymfalchïo yn ei hamrywiaeth eang o ddiwylliannau, bwyd a chelfyddydau. 
 
Mae dros 500 o fyfyrwyr o 45 rhaglen academaidd wahanol, 33 sefydliad academaidd, a 35 gwlad ledled y byd wedi cymryd rhan yn Ysgol Haf Fyd-eang Humber. Felly, rydym yn edrych ymlaen at eu blog fideo pan fyddan nhw’n dychwelyd, i glywed am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod y profiad anhygoel hwn.