Skip to main content
Myfyrwyr â’u tlysau / Students with trophies

Noson i’w chofio: Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2023

Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn arall eto o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.

Dychwelodd yr hen ffefryn Kev Johns MBE i’r llwyfan yn Stadiwm Swansea.com i gyflwyno’r noson, lle casglwyd gwobrau gan fyfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, prentisiaethau, llwybrau addysg uwch, cyrsiau mynediad a rhaglenni cymorth cyflogadwyedd.

Siaradwr gwadd y noson oedd yr enillydd BAFTA, y darlledwr, yr anturiaethwr dewr a’r athletwr dygnwch eithafol o’r radd flaenaf, Lowri Morgan. Roedd ei neges o ddyfalbarhau a meddwl yn gadarnhaol wedi ysbrydoli pawb a fu’n bresennol.

Roedd y digwyddiad gwobrwyo yn arddangosfa ymarferol o dalentau myfyrwyr hefyd.

Darparwyd adloniant gan fyfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau, a gyflwynodd sioe Syrcas Arswyd arbennig i westeion, a chafwyd perfformiad gan Dance4Ukraine, sy’n cynnwys llawer o fyfyrwyr o Gampws Llwyn y Bryn. Darparwyd y set, y goleuadau a’r sain gan fyfyrwyr Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3.

“Rydyn ni wedi clywed storïau am fyfyrwyr yn ennill y graddau uchaf posibl, myfyrwyr yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol yn y ddisgyblaeth o’u dewis, myfyrwyr yn cydbwyso ymrwymiadau sylweddol o ran teulu a gwaith gyda’u hastudiaethau a myfyrwyr eraill sydd wedi teithio pellter anhygoel ers dechrau yn y Coleg,” meddai’r Pennaeth Mark Jones. “Ac er bod y rhain i gyd yn storïau gwahanol, maen nhw’n rhannu thema gyson sef ymrwymiad, penderfyniad a mynd yr ail filltir, sydd yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Rhestr lawn enillwyr gwobrau 2023:

Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Sylfaenol Oedolion/ESOL – Walid Musa Albuqai
Gwobr Bernie Wilkes - Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt, Harddwch a Holisteg – Orlagh Cronin
Myfyriwr y Flwyddyn Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth – Megan Gear
Myfyriwr y Flwyddyn Sgiliau Byw’n Annibynnol – Leon Date
Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Samuel Brooks
Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Gweledol – Rhodri Howes
Myfyriwr y Flwyddyn Busnes – Cellan Jones
Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Creadigol – Lucas Williams
Myfyriwr y Flwyddyn Y Dyniaethau ac Ieithoedd – Leah Williams
Myfyriwr y Flwyddyn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol – Anwen O’Brien
Myfyriwr y Flwyddyn Technoleg – Zak Thompson
Myfyriwr y Flwyddyn Peirianneg– Joshua Lenthall
Myfyriwr y Flwyddyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Luke Jones
Myfyriwr y Flwyddyn Amglychedd Adeiledig – Kody Pressdee
Prentis y Flwyddyn – Sanni Salisu
Y Flwyddyn Llwyddiant Chwaraeon Rhagorol – Megan Gwyther
Partner Cyflogwr y Flwyddyn – Swansea Council
Gwobr Elaine McCallion – Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant GCS – Cedron Sion
Myfyriwr Rhyngwladol y Flwyddyn – Zhiyang Wang
Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad – Lisa Collins and Roxana de Buitrago
Myfyriwr y Flwyddyn AU – Danielle Hennessy
Myfyriwr y Flwyddyn Yr Iaith Gymraeg – Olivia Lane
Cleient Cyflogadwyedd y Flwyddyn – Kristen Francis
Myfyriwr y Flwyddyn Dilyniant ac Ymroddiad – Joel Lewis

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn – Orlagh Cronin

Diolch yn fawr iawn i bob un o’n noddwyr 2023:

AB Glass
Arena Abertawe
Blake Morgan
Cyngor Abertawe
Hello Starling
Hengoed Care
Mark Jones
Prifysgol Abertawe
RW Learning
South Wales Transport
Swansea Building Society
VTCT
WalesOnline
Waters Creative