Skip to main content
Myfyrwyr rhyngwladol tu allan i Ysgol Busnes Plas Sgeti 2023

Seremoni Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol 2023

Mae graddio yn achlysur pwysig iawn sy’n nodi canlyniadau blynyddoedd o waith caled, ymroddiad a thwf. Mae’n amser i ddathlu cyflawniadau, myfyrio ar y daith, ac edrych ymlaen at bennod newydd.

Yn ffodus, roedd yr haul yn disgleirio ar gyfer ein Seremoni Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti gyda digon o wenu. Rhoddwyd tystysgrifau a chofroddion i raddedigion am eu llwyddiannau, ac fe wnaethant hyd yn oed berfformio carioci i gloi’r digwyddiad gwych.

Wrth i raddedigion symud ymlaen i anturiaethau newydd, maen nhw’n mynd â’r gwersi amhrisiadwy a ddysgwyd a’r cysylltiadau a wnaed yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyda nhw. Felly, gadewch i ni ddathlu’r garreg filltir neilltuol hon a dymuno dyfodol disglair a llwyddiannus i bob myfyriwr graddedig.

Roedd Ruth Owen Lewis, Pennaeth yr Adran Ryngwladol wedi canmol y diwrnod, “Mae’r Seremoni Graddio Ryngwladol yn un o fy hoff ddigwyddiadau’r flwyddyn. Mae’n ddigwyddiad mor arbennig, ac mae’n bleser pur gweld y bobl ifanc uchelgeisiol hyn yn graddio ar ôl dwy neu dair blynedd yn y Coleg.

“Mae’n rhyfeddol faint mae’r myfyrwyr yn newid yn ystod eu hamser gyda ni, mae eu Saesneg yn gwella’n aruthrol, yn ogystal â’u hyder a’u sgiliau academaidd – maen nhw’n aeddfedu ac yn datblygu llawer iawn ac mae’n braf gwybod bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi chwarae rhan yn y trawsnewidiad cadarnhaol hwnnw.”

Ychwanegodd, “Mae gan y myfyrwyr gynigion gwych ar gyfer rhai o brifysgolion gorau’r DU, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am eu cynnydd a’u hantur nesaf.”

Dywedodd Terry Summerfield, Tiwtor Rhyngwladol, “Roedd yn anrhydedd cael siarad yn y Seremoni Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol eleni. Mae’r garfan benodol hon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi bod trwy gyfnod anodd, ar ôl ymuno â’r Coleg yn ystod y pandemig Covid byd-eang a dod allan ohono. I lawer, roedd hyn yn golygu nad oedden nhw’n gallu dychwelyd adref o gwbl yn ystod y ddwy flynedd roedden nhw gyda ni.”

Ychwanegodd, “Mae’r garfan hon wedi dangos gwydnwch aruthrol o ran addasu i wlad a diwylliant newydd ac amgylchedd dysgu cwbl newydd. Maen nhw’n haeddu pob clod am hyn, ar ôl gwneud hyn ar adeg heriol iawn.”

Mae mwyafrif helaeth dosbarth 2023 wedi gwneud cais i barhau â’u hastudiaethau yn y DU mewn prifysgol Russell Group, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw pan ddaw eu canlyniadau allan ym mis Awst.

Mae wedi bod yn bleser i’w dysgu nhw ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol a gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad.”

Llongyfarchiadau Ddosbarth 2023!