Skip to main content

Wythnos Menter Fyd-eang 2015 – Gwnewch Iddo Ddigwydd!

Mae staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Wythnos Menter Fyd-eang gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Dechreuodd yr wythnos gyda sesiwn ‘Cymryd Rhan’, lle gosodwyd nifer o heriau i’r myfyrwyr gan gynnwys ‘Dychmygu’ch Dyfodol’ a ‘Dyfalu’r Cynnyrch’ yng nghwmni dau entrepreneur lleol – y gantores Ayesha Jeffries a Ben Clifford o Surfability.

Ar gampws Llwyn-y-Bryn, roedd myfyrwyr ffasiwn a thecstilau wedi cymryd rhan mewn gweithdy eco gyda’r gynllunwraig gemwaith Tanya Igic, lle roedden nhw wedi dysgu sut i ailwampio hen ddillad a’u ‘huwchgylchu’ yn eitemau newydd atyniadol.

Aeth myfyrwyr chwaraeon i sesiwn ‘cyfweliad ffug’ gyda Gyrfa Cymru a chyflogwyr lleol gan gynnwys HSBC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Banc Lloyds a Tata Steel. Cafodd gweithdy rhyngweithiol ei drefnu hefyd i fyfyrwyr y Cyfryngau Creadigol, lle roedden nhw wedi cwrdd â phobl fusnes lwyddiannus i ddatblygu eu sgiliau menter / cyflogadwyedd.

Yn ogystal â gweithgareddau coleg, roedd nifer o wibdeithiau wedi cael eu trefnu i leoliadau mor amrywiol â stiwdios Long Row Audio, a redir gan yr entrepreneur lleol Dan yn guy, a Phrifysgol Abertawe.

“Ein nod yw ysbrydoli myfyrwyr i gychwyn ar eu taith entrepreneuraidd drwy ddod â’u syniadau’n fyw a ‘gwneud iddo ddigwydd’,” dywedodd y Swyddog Menter Lucy Turtle. “Beth bynnag yw eu syniad, rydyn ni am iddyn nhw fod yn angerddol drosto a, thrwy gysylltu ag entrepreneuriaid lleol, mentoriaid a siaradwyr ysbrydoledig, rydyn ni’n credu y byddan nhw’n cael eu hannog i fentro a’i gwneud!”

Noddir Wythnos Menter Fyd-eang gan Lywodraeth Cymru