Skip to main content

Busnes Lefel 3 gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig – Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am astudio Gwasanaethau Ariannol, Marchnata a Rheolaeth Busnes.

BTEC Diploma (Cenedlaethol) Lefel 3 mewn Busnes

Bydd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys Marchnata, Adnoddau Dynol, Rheolaeth, a TG gyda phwyslais ar Gyllid (mae rhai unedau’n cynnwys arholiadau).

Mae unedau astudio’n cynnwys:

  • Archwilio Busnes 
  • Datblygu Ymgyrch Marchnata (Allanol)
  • Cyllid Personol a Busnes (Allanol)
  • Rheoli Digwyddiad 
  • Busnes Rhyngwladol  
  • Egwyddorion Rheolaeth (Allanol)
  • Hyrwyddo Busnes Newydd / Marchnata Digidol 
  • Proses Recriwtio a Dethol.

Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)

Mae’r cymhwyster CIM hwn yn gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan fusnesau ledled y byd. Mae’n rhoi dealltwriaeth o’r cysyniadau allweddol a’r derminoleg a ddefnyddir mewn marchnata. Mae’r cwrs yn cynnwys chwe uned, mae arholiadau mewn tri ohonynt, ac mae’r tri arall yn seiliedig ar aseiniadau. Ar ddiwedd y cymhwyster hwn, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o rôl a swyddogaeth marchnata, marchnata digidol mewn sefydliadau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad prynwyr. Byddwch hefyd yn gallu nodi elfennau allweddol yr amgylchedd marchnata, marchnata digidol a strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith o fewn y cymysgedd marchnata i helpu i ddatblygu ymgyrchoedd digidol.

  • Darganfod Marchnata
  • Yr Amgylchedd Marchnata
  • Y Cymysgedd Marchnata.

Asesu: Arholiad dewis lluosog.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
  • Neu broffil Teilyngdod BTEC Diploma lefel 2 mewn Busnes a TGAU Saesneg.

Mae cyfweliad yn ofynnol.
 

Prifysgol neu gyflogaeth.

Bydd holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn ymweliad Rhyngwladol/yn y DU a ariennir gan y myfyriwr. 

Ffi cofrestru’r myfyriwr: £40.