Skip to main content

Ffrangeg Rhan-amser

Rhan-amser
Lefel 1
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnig ystod o ddosbarthiadau wedi’u teilwra i’ch lefel hyfrededd, gan roi cyfle i chi ymgymryd ag un rhaglen yn unig neu symud ymlaen yn raddol drwy’r camau. Os nad yw’r cwrs rydych chi’n dymuno ymgymryd ag ef ar gael, gwiriwch y rhestr nes ymlaen.

Ffrangeg ar gyfer Gwyliau

Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer unigolion sy’n bwriadu ymweld â Ffrainc neu wledydd Ffrangeg eu hiaith. Nid yw’r dosbarthiadau yma ar gyfer pobl sy’n meddu ar sgiliau Ffrangeg da, maent ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r iaith. Mae’r cwrs yn ymdrin â thestunau hanfodol megis archebu bwyd a diod, bwcio llety ac ymweld â swyddfeydd twristiaeth. Trwy gwblhau gwersi rhyngweithiol ac ymarferion ymarferol, bydd myfyrwyr yn dysgu geirfa ac ymadroddion allweddol fel y gallant gynnal sgyrsiau sylfaenol yn Ffrangeg.

Cam 1 (Medi)

Testunau’r lefel hon: cyflwyno eich hun (enw, cenedlaetholdeb, niferoedd, swydd a gwybodaeth gyffredinol am y teulu), archebu bwyd a diod mewn caffi a bwcio ystafell mewn gwesty. Mae’r dosbarthiadau yn addas ar gyfer dechreuwyr nad oes ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth o’r iaith.

Cam 2 (Ionawr)

Gan fod yn gyfforddus gydag adrodd cyfarchion sylfaenol ynghyd â chymryd rhan mewn cyflwyniadau a thestunau Cam 1, bydd myfyrwyr Cam 2 yn cynyddu eu hyder wrth ymgymryd â sefyllfaoedd gwyliau ac yn ennill gwell dealltwriaeth ddiwylliannol. Bydd y gwersi yn cynnwys ystod o weithgareddau gan gynnwys darllen, gwrando a siarad.

Gwybodaeth allweddol

Mae dwy sesiwn awr yn cael eu cynnal bob wythnos. Mae pob gwers yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau darllen, gwrando a siarad. Weithiau byddwch chi'n gweithio ar eich pen eich hun, mewn parau neu mewn grwpiau.

Ni cheir arholiad ond cewch eich asesu’n anffurfiol drwy gydol y cwrs.

Cyrsiau tebyg

French for Holidays
Cod y cwrs: ZA125 ETB
04/06/2024
Tycoch
5 weeks
Tue
6.30pm - 8.00pm
£0