Skip to main content

Cyflwyniad i Dechnegau Motiff Crosio Lefel 1

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Kingsway Centre
10 wythnos

Arolwg

O ddillad i nwyddau cartref a chyfwisgoedd, mae crosio yn bendant yn ôl mewn ffasiwn! P’un a ydych yn newydd i’r grefft neu wedi rhoi cynnig arni yn y gorffennol ond heb lwyddo, dyma’r cwrs perffaith i chi.  

Mewn cyfres o weithdai ymarferol gyda thiwtor profiadol, byddwch yn dysgu sut i ddal y gweill wrth ddefnyddio’r edafedd a chreu’r pwythau syml sy’n sail i bob prosiect crosio, megis gwneud cadwyn a chrosio sengl, dwbl a threbl. Byddwch hefyd yn dysgu sut i siapio eitem ac uno motiffau gorffenedig i ffurfio eitem fwy fel blanced, sgarff, het, bag neu gwdyn ffôn. Bydd sesiynau wedi’u neilltuo ar gyfer motiffau sgwâr, cylchol a hecsagonol: popeth sydd angen ei wybod er mwyn ymgymryd â’ch prosiect eich hun.  

Bydd llawer o brosiectau i ddechreuwyr a datblygwyr i’w cyflawni unwaith y byddwch wedi dysgu’r hanfodion.   

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad. 

Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth.  

Bydd yr holl eitemau a gynhyrchir yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig.  

Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos.  

  • Parhad Cyrsiau Agored  
  • Celf a Dylunio Lefel 2  
  • Celf a Dylunio Lefel 3  
  • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio  

Darperir yr holl offer.