Skip to main content

Cyflwyniad i Ffasiwn Cynalaiadwy (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel 1
Llwyn y Bryn
5 diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ffasiwn cynaliadwy trwy weithgareddau ymarferol gyda’r nod o ddatblygu’ch sgiliau technegol. Byddwch yn dysgu am amrywiaeth o ffibrau a ffabrigau gwahanol a’r effaith y mae pob un yn ei chael ar yr amgylchedd. Cewch gyfle i ddatblygu’ch sgiliau gwnïo a chael eich annog i arbrofi ag amrywiaeth o brosesau gwnïo a defnyddiau, gan gynnwys sgiliau atgyweirio. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o samplau gwnïo i gefnogi prosiectau yn y dyfodol. Yna byddwch yn cynhyrchu eitem tecstilau (bydd y math yn dibynnu ar eich sgiliau eich hun) gan ddefnyddio defnyddiau wedi’u huwchgylchu. Cewch opsiwn i ymuno â’r ail gwrs uwch – Dillad Ffasiwn Cynaliadwy – sy’n dechrau yn fuan wedyn.

Gwybodaeth allweddol

Byddai rhywfaint o wybodaeth o wnïo yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau a asesir er mwyn i chi gael eich tystysgrif ar gyfer y cymhwyster. Addysgir y cwrs am 30 awr yn ystod yr wythnos.

Gall dysgwyr symud ymlaen i’r cwrs Lefel 2, sy’n cael ei addysgu dwy wythnos wedyn. Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn gam da nesaf.

Darperir offer, cyfarpar a defnyddiau, ac eithrio ffabrig ar gyfer y dilledyn terfynol.