Skip to main content

Cyflwyniad i Wneud Bag Tôt Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Oherwydd yr ymdrech i ddileu plastigion untro mae cyfle wedi codi i leihau ein dibyniaeth ar fagiau siopa. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau i weithgynhyrchu eich bagiau tôt eich hun sydd wedi’u dylunio a’u haddurno i gyd-fynd â’ch steil a’ch personoliaeth unigryw.

Mae’r cwrs yn cynnwys 10 sesiwn tair awr o hyd ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn dysgu sut i wneud y templed ar gyfer eich tôt, byddwch yn cael llawer o gyfle i arbrofi gyda phaent a lliwiau ffabrig ynghyd â thechnegau gwnïo ac addurno fel clytwaith, cwiltio, brodwaith, a gleinwaith.  

Peidiwch â phoeni, ni fydd yn waith caled i gyd, bydd amser ar gyfer sgyrsiau dros baned o de/coffi i ddod i adnabod eich cyd-grefftwyr a chael eich ysbrydoli gan yr awyrgylch creadigol.  

Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi cynhyrchu’ch tôt eich hun, wedi’i ddylunio i’ch manylebau y gallwch ei drysori am byth. Heb sôn am y ffaith y byddwch wedi datblygu llawer o sgiliau newydd ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd sydd â’r un meddylfryd â ti. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad. 

Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth.  

Bydd yr holl eitemau a gynhyrchir yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig.  

Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos. 

  • Parhad Cyrsiau Agored
  • Celf a Dylunio Lefel 2
  • Celf a Dylunio Lefel 3
  • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Darperir yr holl offer.