Skip to main content

Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel Un

Rhan-amser
Llys Jiwbilî
dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y cwrs hwn i selogion beicio a’i nod yw rhoi lefel dda o allu mecanyddol er mwyn cynnal a chadw beic.

Bydd yn rhoi hyder i chi wneud gwaith atgyweirio a gwasanaethu a bydd yn eich addysgu sut i wybod pryd bydd angen i chi weld technegydd hyfforddedig mwy profiadol.

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu:

  • Pensetiau
  • Bracedi gwaelod
  • Trenau gyriant
  • Gosod gerau
  • Breciau
  • Bothau
  • Teiars a thiwbiau 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei asesu’n allanol gan ddarparwr achrededig Cytech, Activate Cycle Academy i Cytech un. Mae dwy ran i’r cwrs Cytech un – theori a thechnegol. Byddwch chi’n gwneud y theori gartref - byddwn ni’n anfon dolen atoch i weithio trwyddo. Byddwch chi’n dod i’r Coleg am yr hyfforddiant technegol am ddau ddiwrnod.

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad ffurfiol.

Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd dros ddau ddiwrnod.

Bydd y cwrs yn cael ei asesu i Cytech un gan aseswr achrededig allanol o’r Activate Cycle Academy, Rhydychen. Byddwn yn rhoi’r dyddiad ar gyfer y sesiwn asesu yn ystod yr hyfforddiant.

Gallech chi symud ymlaen i’r cwrs Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel Dau.

Darperir beic ac offer ar gyfer y cwrs. Mae Cyllid CDP ar gael i dalu am gost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych chi’n gymwys i’w gael, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol

Professional Bicycle Maintenance one
Cod y cwrs: ZA247 SJP14
18/04/2024
2 days
Thu-Fri
8:30 - 5pm
£0
1
Professional Bicycle Maintenance one
Cod y cwrs: ZA247 SJP15
13/05/2024
2 days
Mon-Tue
8:30 - 5pm
£0
1
Professional Bicycle Maintenance one
Cod y cwrs: ZA247 SJP16
13/06/2024
2 days
Thu-Fri
8:30 - 5pm
£0
1