Skip to main content

Mowldio a Chastio Cyfryngau Cymysg (Cyfres yr Haf)

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
10 weeks
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i arbrofi ac archwilio trwy amrywiaeth o wahanol gyfryngau a phrosesau. Byddwch yn profi gwahanol dechnegau o wneud mowldiau ac yn deall theori agweddau technegol. Bydd cyfleoedd i ddatblygu technegau castio amrywiol gyda gwahanol ddefnyddiau gan gynnwys Plastr/Modroc/Resin/Latecs/Llenwadau Metel/Clai/Sment.

Yn ystod y gweithdai penodedig bob dydd byddwch yn gallu adeiladu portffolio o arteffactau mewn cyfryngau cymysg. Gellir haenu’r broses i gyflawni prosiect personol o’ch dewis. Rhoddir sylw i bob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Drwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich arwain a’ch cyfarwyddo gan diwtor profiadol. Mae hwn yn gwrs cychwynnol delfrydol ar gyfer unrhyw un a hoffai weithio mewn cyfryngau gwahanol a 3D neu gynyddu’ch sgiliau i gefnogi eich ymarfer eich hun.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol.

Addysgir y cwrs dros bum diwrnod, 9.30am - 3.30pm

  • Dydd Mercher 5 Gorffennaf
  • Dydd Iau 6 Gorffennaf
  • Dydd Mercher 12 Gorffennaf
  • Dydd Iau 13 Gorffennaf
  • Dydd Mercher 19 Gorffennaf

Cyrsiau Agored Lefel 2 Art and Design Lefel 3 Art and Design Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio

Ffi Stiwdio - £20 Gwisgwch esgidiau synhwyrol wedi’u gorchuddio a dillad ar gyfer gweithgareddau ymarferol.