Skip to main content

Mynediad 2 Mowldio a Chastio Cyfryngau Cymysg Mynediad Lefel 2

Rhan-amser
Lefel Mynediad 2
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i arbrofi ac archwilio trwy amrywiaeth o wahanol gyfryngau a phrosesau. Byddwch yn profi gwahanol dechnegau o wneud mowldiau ac yn deall theori agweddau technegol. Bydd cyfleoedd i ddatblygu technegau castio amrywiol gyda gwahanol ddefnyddiau gan gynnwys Plastr/Modroc/Resin/Latecs/Llenwadau Metel/Clai/Sment.

Yn ystod y gweithdai penodedig bob dydd byddwch yn gallu adeiladu portffolio o arteffactau mewn cyfryngau cymysg. Gellir haenu’r broses i gyflawni prosiect personol o’ch dewis. Rhoddir sylw i bob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Drwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich arwain a’ch cyfarwyddo gan diwtor profiadol. Mae hwn yn gwrs cychwynnol delfrydol ar gyfer unrhyw un a hoffai weithio mewn cyfryngau gwahanol a 3D neu gynyddu’ch sgiliau i gefnogi eich ymarfer eich hun. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai dysgwyr yn elwa o fynychu bob tymor i feithrin sgiliau i baratoi ar gyfer y tymor dau a chyrsiau tymor tri, er nad yw hyn yn rhwystr rhag mynychu pob tymor fel cwrs annibynnol. 

Cyflwynir y cwrs dros 10 wythnos, gydag un sesiwn tair awr yr wythnos. 

Mae yna nifer o gyfleoedd gan gynnwys cyrsiau rhan amser eraill, Lefel 2 Celf a Dylunio, Lefel 3 Celf a Dylunio, a'r Diploma Sylfaen Celf a Dylunio. 

Mae ffi stiwdio o £20 am y cwrs hwn.