Skip to main content

Photoshop Creative Cloud – Dechreuwyr (CDP)

Rhan-amser
Lefel Mynediad
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Dysgwch bopeth am Adobe Photoshop ar y cwrs hwn i ddechreuwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Tyfwch eich sgiliau digidol gan ddefnyddio Photoshop Creative Cloud.

Mae’r defnydd o Photoshop o’n cwmpas ni i gyd – mae’r mwyafrif o ddelweddau a welwch mewn hysbysebion, ar y cyfryngau cymdeithasol neu ym mhob man bron, fwy na thebyg wedi cael eu golygu. Wrth i ni symud yn ddyfnach i’r oes ddigidol, mae’r galw am sgiliau Photoshop yn parhau i dyfu.

Bydd y cwrs hwn yn gweithredu fel llwyfan i’ch helpu i gael eich cyflwyno i Adobe Photoshop. Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn dechrau adeiladu amrywiaeth o sgiliau gan roi modd i chi greu, golygu a thrin delweddau i safon uchel. Addysgir y cwrs mewn cyfnodau dysgu byr wedi’u dilyn gan aseiniad y mae’n rhaid i chi ei gwblhau. Mae hyn yn sicrhau, yn ogystal â dysgu sgiliau mewn Adobe Photoshop, y gallwch chi roi’r sgiliau hyn ar waith yn annibynnol hefyd.

Sgiliau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn:

  • Ychwanegu a rheoli delweddau 
  • Golygu delweddau 
  • Creu’ch graffigwaith eich hun o’r dechrau 
  • Trin delweddau 
  • Cadw delweddau ar gyfer llwyfannau amryfal.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth a’i asesu trwy dasgau gweithdy yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs yn para 10 wythnos am ddwy awr a hanner yr wythnos.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth a’i asesu trwy dasgau gweithdy yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs yn para 10 wythnos am ddwy awr a hanner yr wythnos.

Bydd y sgiliau a’r technegau a ddysgwyd ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau fel ffotograffiaeth, marchnata, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, dylunio graffig ac ati.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi’r sgiliau gofynnol i chi astudio’r cwrs Photoshop Canolradd.