Skip to main content

Gofaint Arian – Dechreuwyr / Canolradd

Rhan-amser
Lefel 1
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Drwy gydol y flwyddyn byddwn ni’n rhedeg tri chwrs annibynnol, 10 wythnos ar Ofaint Arian.

  • Cwrs 1: Ar y cwrs hwn bydd dechreuwyr yn dysgu hanfodion gofaint arian gan gynnwys defnyddio llif rwyllo, gweadu, ffeilio, llathru, soldro arian, gwneud bar a thlws crog arian. Bydd myfyrwyr canolradd yn dylunio a gwneud bangl, cyffen neu freichled arian, ac archwilio gweithio gyda defnyddiau eraill ac arian, er enghraifft PMC, ailgylchu, metelau cymysg sy’n cyfuno copr, arian, efydd ac aur.
  • Cwrs 2:  Bydd dechreuwyr yn dysgu gwneud modrwyau arian plaen ac addurnedig i’r maint cywir. Bydd myfyrwyr canolradd yn dysgu amrywiaeth o dechnegau gweadu a ffurfio gan gynnwys rhwydennu, cromennu, ffurfio plygiadau, defnyddio’r felin rolio ar gyfer gweadu arian a defnyddio morthwylion a stanciau; ac yna byddan nhw’n dylunio a gwneud darn o emwaith arian gan ddefnyddio unrhyw un o’r technegau hyn.
  • Cwrs 3: Byddwch yn dysgu sut i osod cerrig lled-werthfawr mewn darn o emwaith arian o’ch dewis, gallai hwn fod yn dlws crog, yn glustdlysau neu yn fodrwy arall. Bydd myfyrwyr canolradd yn dylunio a chynhyrchu darn o emwaith wedi’i ysbrydoli gan of arian o’ch dewis, ac ar yr un pryd byddwch yn dysgu rhagor o dechnegau gosod cerrig fel gosod tiwb a gosod basged syml. Bydd hyn yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu steil eu hunain o wneud gemwaith, a bydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyniant i’r cyrsiau gofaint arian uwch.

Gwybodaeth allweddol

Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond mae pob cwrs Gofaint Arian yn gallu bod yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.

Mae iechyd a diogelwch yn agwedd bwysig ar y cwrs.

Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain sydd ar gael yn www.cooksongold.com.

Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar ddyluniadau unigol a dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.

Ffi stiwdio £10