Newyddion a Digwyddiadau

04
Chwef
Rhagor o fedalau sgiliau i fyfyrwyr SBA

Rhagor o fedalau sgiliau i fyfyrwyr SBA

Mae tîm o fyfyrwyr ILS Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol (Y Cyfryngau) a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Roedd Connor Maddick, Megan Bevan a Courtney Collins wedi ffilmio, cynhyrchu a golygu ffilm ddwy funud yn seiliedig ar thema ramantus Santes Dwynwen.
01
Chwef
Un deg un o fyfyrwyr yn mynd i Rydgrawnt

Un deg un o fyfyrwyr yn mynd i Rydgrawnt

Mae 11 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2019. Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n bwriadu darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n gobeithio symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
01
Chwef

Mae'r Coleg ar agor fel arfer y bore 'ma - pob safle

Mae'r Coleg ar agor fel arfer y bore 'ma - pob safle
31
Ion

Rhybudd brys am dywydd garw dydd Iau 31 Ionawr

Oherwydd y tywydd garw a ddisgwylir heno (31 Ionawr) rydym wedi penderfynu canslo ein holl ddosbarthiadau nos rhan-amser ar bob campws - o 5pm. Mae’r Noson Rieni oedd i fod i gael ei chynnal yng Ngorseinon heno (31 Ionawr) wedi cael ei gohirio a byddwn yn ad-drefnu hyn ar gyfer dyddiad arall.
29
Ion
Myfyrwyr ILS yn gwneud eu marc mewn cystadleuaeth sgiliau

Myfyrwyr ILS yn gwneud eu marc mewn cystadleuaeth sgiliau

Mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol yng Ngholeg y Drenewydd. Roedd Callum East, sy’n astudio ar y cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach (Sgiliau Bywyd), wedi ennill y fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty – Gosod Bwrdd.
29
Ion
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith categori mewn gwobrau AD o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith categori mewn gwobrau AD o’r radd flaenaf

Datgelwyd bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn saith categori yng ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru 2019, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau gweithwyr proffesiynol AD ledled Cymru.
24
Ion
Medalau Aur ac Arian i fyfyrwyr Tycoch

Medalau Aur ac Arian i fyfyrwyr Tycoch

Mae myfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio dwy o’r tair prif wobr yn ddiweddar yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Electroneg Ddiwydiannol). Enillydd y wobr Aur oedd Rhys Watts, gyda Ben Lewis yn ennill gwobr Arian – mae’r ddau fyfyriwr yn astudio cyrsiau Lefel 3 ar Gampws Tycoch. Daeth Daniel Holmes o Goleg Cambria yn drydydd.
17
Ion

Prentisiaid yn barod ar gyfer rowndiau cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymbaratoi i groesawu rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth nodedig Prentis y Flwyddyn ar 24 Ionawr. Ymhlith y cystadleuwyr mae tri myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n gobeithio sicrhau lle yn Rownd Derfynol y DU yn Cheltenham ym mis Mawrth.
14
Ion
Coleg yn dathlu enwebiadau Gwobr Addysg Prydain

Coleg yn dathlu enwebiadau Gwobr Addysg Prydain

Mae dau aelod o staff ac un myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Addysg Prydain (BEA). Cafodd Gwobrau Addysg Prydain eu sefydlu er mwyn hyrwyddo rhagoriaeth byd addysg Prydain. Maent yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd addysg a dysgu fel sylfaen i fyw bywyd da ac yn ei weld fel ffordd o fesur llwyddiant y wlad.
11
Ion
Duathlon Y Mwmbwls mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe

Duathlon Y Mwmbwls mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe

Mae Activity Events Wales, sef cwmni digwyddiadau aml-chwaraeon blaenllaw yng Nghymru, wedi arwyddo partneriaeth newydd â Choleg Gŵyr Abertawe.

Tudalennau

Subscribe to Gower College Swansea Feed