Newyddion y Coleg
Adeiladu’r gweithlu peirianneg y bydd ei angen ar Abertawe yn y dyfodol
Nid dod o hyd i beirianwyr yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cyflogwyr peirianneg, ond dod o hyd i beirianwyr gyda’r cyfuniad cywir o sgiliau.
Ar draws diwydiant, mae cyfuniad o sgiliau mecanyddol a thrydanol yn fwyfwy gwerthfawr ond yn hynod o anodd i’w recriwtio.
Mae cyflogwyr yn gweld eu hunain yn recriwtio myfyriwr graddedig peirianneg fecanyddol ac yna yn buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol yn datblygu ei wybodaeth am beirianneg drydanol, systemau rheoli ac awtomeiddio. Neu i’r gwrthwyneb.
Darllen mwy
“Wnaethon nhw roi’r hyder iddi gredu y gallai hi lwyddo”: Safbwynt rhiant am daith Poppy i Gaergrawnt
I Poppy Harry-Thomas, roedd dewis chweched dosbarth yn golygu dod o hyd i rywle a allai gynnig y pynciau roedd hi eisiau eu hastudio yn ogystal â’r hyblygrwydd a’r cymorth i’w helpu i wireddu ei huchelgeisiau.
Dewisodd Poppy Goleg Gŵyr Abertawe i astudio Safon Uwch Ffrangeg a Sbaeneg, pynciau nad oeddent ar gael gyda’i gilydd mewn chweched dosbarthiadau lleol eraill.
Dywedodd ei mam, Louisa Harry-Thomas, fod yr amrywiaeth o bynciau sydd ar gael yn rheswm allweddol dros ddewis y Coleg, ond yr hyn a wnaeth sefyll allan yn fwy na dim oedd y gefnogaeth unigol a gafodd Poppy.
Darllen mwy
Gwybodaeth am gofrestru
Cyrhaeddwch eich sesiwn gofrestru ar amser er mwyn ein helpu i’ch croesawu chi yn ddidrafferth.
Gwiriwch eich e-byst a chwblhewch y wybodaeth Paratoi ar gyfer y Coleg gan ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a anfonwyd.
Os nad ydych yn gallu dod neu os oes unrhyw ymholiadau gennych, ffoniwch y Tîm Derbyn: admissions@gcs.ac.uk
Bydd angen y canlynol arnoch:
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau rhagorol wrth i’r gyfradd basio Safon Uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych eleni wrth i’r gyfradd basio Safon uwch gyrraedd 100% am yr ail flwyddyn yn olynol (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 97.5%).
Mae nifer y graddau uchaf wedi codi unwaith eto, gyda 14% o ddysgwyr yn sicrhau graddau A*, i fyny o 12% yn 2025 ac yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 11%.
Roedd perfformiad uchel ar gyfer y graddau hefyd yr un mor nodedig, gyda 39% o ddysgwyr yn sicrhau graddau A*-A (cyfartaledd cenedlaethol Cymru yw 30%) a 152 o ddysgwyr yn sicrhau gradd A* neu A.
Darllen mwy
Gwahoddiad i gyflogwyr fuddsoddi yn nhalent y dyfodol drwy Brentisiaethau Gradd ac Uwch wedi’u hariannu’n llawn a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n gwahodd cyflogwyr i archwilio’r Prentisiaethau Gradd ac uwch sydd ar gael o fis Medi 2026. I gyflogwyr newydd a phresennol, mae’r cymwysterau hyn yn cynnig llwybr (wedi’i ariannu’n llawn) clir at statws Siartredig neu Gofrestredig
Darllen mwy
Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2026
Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig, dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 3 Awst. Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:
Darllen mwy
Partneriaethau cryf ag ysgolion yn helpu dysgwyr i ffynnu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
I nifer o bobl ifanc, mae symud o’r ysgol i’r coleg yn un o’r cerrig milltir mwyaf yn eu haddysg.
Gall amgylchedd newydd, disgwyliadau newydd a threfn arferol newydd wneud i’r pontio deimlo’n frawychus, yn enwedig i ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Dyna pam mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio’n agos gyda’i ysgolion partner i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n hyderus, yn barod ac yn gyffrous am y cam nesaf ar eu taith addysgol.
Darllen mwy
Ailddatblygiad Campws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau cyn agor ym mis Medi
Mae Goleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ailddatblygiad mawr ar Gampws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau’n ymarferol, ac mae gwelliannau terfynol nawr yn cael eu gwneud cyn croesawu dysgwyr i’r cyfleusterau newydd ym mis Medi.
Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Kier a’i gefnogi drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’r buddsoddiad gwerth £20.6 miliwn yn un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar y Coleg.
Darllen mwy
Craffu ar Will Evans - Sylfaenydd Will’s Farm
Mae dechrau busnes yn broses heriol, ond mae gwneud hynny yn 13 oed yn cymryd dycnwch rhagorol.
I Will Evans - un o gyn-fyfyrwyr amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe - mae ei ddycnwch wedi arwain at sefydlu atyniad lleol hynod o ffyniannus. Bellach yn 19 oed, Will yw sylfaenydd busnes Will's Farm, fferm anifeiliaid anwes a chyrchfan i dwristiaid yng nghalon Gŵyr.
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio prentisiaeth Lefel 5 Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX newydd
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi Prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX Lefel 5. Byddwn yn dechrau cynnig y cwrs o fis Medi 2026 ac mi fydd yn cynnig llwybr dilyniant newydd i unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd a’u harbenigedd proffesiynol.
Mae’r lansiad hwn yn atgyfnerthu llwybr prentisiaethau y Coleg ym maes y gyfraith, gan gefnogi datblygiad a dilyniant ar draws y sector ledled De Cymru.
Darllen mwyPagination
- Page 1
- Tudalen nesaf ››