Skip to main content

Gweithiwr Gweithgynhyrchu Darbodus (Lloegr) Lefel 2 – Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
EPA
Llys Jiwbilî
14-18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y brentisiaeth hon yn datblygu dysgwyr i fod yn Weithwyr Gweithgynhyrchu Darbodus, rôl lle mae disgwyl i ymgeiswyr gyflawni eu gwaith yn ddiogel mewn amgylchedd cyflym, a datblygu i fod yn weithwyr amlfedrus. Yn ogystal, efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr gyflawni gweithgareddau gweithgynhyrchu ar nifer o brosiectau gyda gofynion gwahanol yn olynol.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd gan ddysgwyr yr wybodaeth i:

  • Baratoi, rheoli, cwblhau a chyfrannu at weithrediadau gweithgynhyrchu
  • Dilyn prosesau gweithgynhyrchu a gweithdrefnau gweithredu safonol
  • Cynnal gofynion iechyd a diogelwch
  • Cyfrannu, datblygu a chefnogi gwelliannau mewn gweithrediadau gweithgynhyrchu, trwy dechnegau gwella parhaus megis kaizen a datrys problemau
  • Cynnal archwiliadau ansawdd

Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yn Lloegr yn unig.  Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth debyg yng Nghymru, cliciwch yma. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn astudio amrywiaeth o destunau, gan gynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Amgylcheddol
  • Cynhyrchu
  • Gweithrediadau gweithgynhyrchu darbodus
  • Rheoli ansawdd
  • Datrys problemau
  • Gwella parhaus
  • Cyfathrebu
  • Trefniadaeth y gweithle

Technegydd Gwella (Lloegr) Lefel 3 - Prentisiaeth

Mae enghreifftiau o deitlau swyddi yn cynnwys:

  • Cydlynydd gwella busnes
  • Swyddog gweithredol gwella parhaus
  • Technegydd prosesu
  • Dadansoddwr rheoli ansawdd
  • Technegydd cydymffurfio amgylcheddol

Dysgu i ffwrdd o’r gwaith

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chwe awr (o leiaf) yr wythnos i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau newydd. Math newydd o ddysgu yw dysgu i ffwrdd o’r gwaith, lle mae prentisiaid yn ymgymryd â gwaith sy’n uniongyrchol berthnasol i’r brentisiaeth y mae’n ei astudio.

Bydd y broses ar gyfer dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cael ei chynllunio yn ystod cyfnod cynllunio’r brentisiaeth, a bydd y broses yn ystyried ymrwymiadau gweithredol. Bydd prentisiaid yn gallu ymgymryd â dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn wythnosol neu ar ffurf sesiynau bloc, pa un bynnag sy’n fwyaf addas i’r dysgwr a’r sefydliad.

Adolygiadau Cynnydd

I sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni cynnydd yn unol â disgwyliadau ac amserlenni’r brentisiaeth, byddwn yn monitro cynnydd ac ansawdd dysgu’r dysgwr trwy adolygiad cynnydd, cyfarfod rhwng y dysgwr, y cyflogwr a’r tiwtor/aseswr. Yn ogystal â'r adolygiad cynnydd, byddwn yn sicrhau bod uwch aelodau penodol o fewn y sefydliad yn cael eu diweddaru'n fisol fel y gallant drafod cynnydd a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu lle bo angen.

Gellir cynnal adolygiadau cynnydd yn bersonol, neu drwy gynhadledd fideo neu dros y ffôn.