Skip to main content

Technegau Gwella Busnes (TGB) Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
EAL
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bydd Technegau Gwella Busnes yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu atebion newydd ar gyfer sefydliad, trwy gyflwyno ac astudio cysyniadau darbodus. Mae gan ein prentisiaethau yr amcan allweddol o wella perfformiad busnes. Mae Lefel 2 yn addas i’r rhai sydd am weithio mewn tîm gwella.

Addysgir y rhaglenni fel cymwysterau annibynnol y gellir eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, a gellir eu defnyddio i uwchsgilio staff presennol neu newydd.

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasg gwella prosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned ac yna byddan nhw’n rhoi’r rhain ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp ac un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli e-bortffolio ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd disgwyl i’r dysgwyr fynychu gweithdai rhyngweithiol, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau. Bydd y dysgwyr hefyd yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a byddan nhw’n creu portffolio prosiect i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd.

Gallwn addysgu’r prentisiaethau o bell, yn hybrid neu wyneb yn wyneb.

Unedau gorfodol

  • Gweithio’n ddiogel
  • Trefniadaeth y gweithle (5S)
  • Gwaith tîm effeithiol
  • Gwella parhaus (Kaizen)
  • Systemau rhreoli gweledol

Unedau dewisol

  • Dadansoddi proses llif
  • Datrys problemau

Technegau Gwella Busnes Lefel 3 - Prentisiaeth