Skip to main content

Sgiliau Garwddwriaeth Ymarferol Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr sydd â diddordeb neu brofiad ym myd tirlunio a garddio. Gallai hyn fod fel hobi, trwy gwrs Lefel 1, profiad gwaith neu ddidordeb mewn pethau gwyrdd! 

Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau bywyd go iawn ar y safle ac oddi ar y safle ar y cyd â’n partneriaid niferus, e.e. Cwrs Golff Pennard, Coedwig Penllergaer, Parc Singleton. 

Byddwch yn: 

  • Dysgu am egwyddorion tirlunio, cysyniadau dylunio, ac elfennau sy’n creu lleoedd awyr agored cyfareddol 
  • Datblygu technegau tirlunio caled a all gynnwys adeiladu llwybrau, waliau, patios a ffensys terfyn 
  • Deall sut i dyfu a gofalu am blanhigion a llysiau  
  • Dewis y planhigion cywir ar gyfer lleoliadau gwahanol a dysgu sgiliau cynnal a chadw gardd hanfodol 
  • Dysgu sut i ddefnyddio offer a pheiriannau priodol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol 
  • Cael profiad o weithio gyda chwsmeriaid trwy brosiectau yn y gymuned, ffeiriau gwyrdd a digwyddiadau tymhorol. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd rhaid i fyfyrwyr ddangos diddordeb mewn tirlunio caled a meddal ac, yn ddelfrydol, bydd ganddynt gymhwyster Diploma Lefel 1 Adeiladu a Garddio Tirlun, neu un Radd C ar lefel TGAU.

Tri diwrnod yr wythnos am flwyddyn. 

Asesu: 

  • Arsylwi perfformiad ymarferol 
  • Portffolio o dystiolaeth ffotograffig  
  • Asesiadau ysgrifenedig byr. 

Meini Prawf Graddio: 

Pasio. 

Mae dysgwyr blaenorol ar y cwrs hwn wedi cael cyflogaeth gyda chontractwyr tirlunio, cwmnïau adeiladu, canolfannau garddio, meithrinfeydd planhigion, a’r adran barciau. Mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu eu busnesau cynnal a chadw gerddi eu hunain.  

Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Tirlunio a Garddwriaeth Lefel 3.

Lleolir ar Gampws Tycoch a Champws Gorseinon. Bydd angen lefel sylfaenol o ffitrwydd corfforol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gofyn i chi ddarparu a gwisgo esgidiau diogelwch, trwser gwaith, dillad diddos. Bydd y Coleg yn darparu menig, sbectol diogelwch, amddiffynwyr clustiau a’r holl offer a chyfarpar.