Skip to main content

Adeiladu a Garddio Tirlun Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
Diploma
Tycoch, Gorseinon
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Paratowch i balu i fyd cyffrous tirlunio!  

Bwriedir y cwrs hwn i’r rhai sy’n mwynhau bod y tu allan i’r ystafell ddosbarth a chael eu dwylo’n frwnt. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau bywyd go iawn ar y safle ac oddi ar y safle e.e. Cwrs Golff Pennard, Coedwig Penllergaer, Parc Singleton. 

Byddwch yn:   

  • Darganfod yr hanfodion y tu ôl i greu lleoedd awyr agored hardd 
  • Cael profiad ymarferol o adeiladu llwybrau, waliau, patios, a hyd yn oed ffensys terfyn i drawsnewid mannau awyr agored yn llwyr 
  • Darganfod cyfrinachau tyfu a gofalu am blanhigion a llysiau 
  • Dysgu i ddewis y planhigion perffaith ar gyfer lleoliadau gwahanol ac ennill sgiliau hanfodol ar gyfer cynnal gardd llawn bywyd 
  • Dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer a chyfarpar i wireddu’ch gweledigaethau tirlunio. Byddwn ni’n eich addysgu sut i’w trin yn ddiogel ac yn effeithiol 
  • Cael cyfle i weithio gyda chwsmeriaid trwy brosiectau cymunedol, ffeiriau gwyrdd, a digwyddiadau tymhorol. 

Gwybodaeth allweddol

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol. 

Tri diwrnod yr wythnos am flwyddyn.

Asesu:

  • Arsylwi perfformiad ymarferol
  • Portffolio o dystiolaeth ffotograffig

Meini Prawf Graddio:

  • Pasio

Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol.

Bydd gofyn i chi ddarparu a gwisgo esgidiau diogelwch, trwser gwaith, dillad diddos.

Bydd y Coleg yn darparu menig, sbectol diogelwch, amddiffynwyr clustiau a’r holl offer a chyfarpar.