Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr

Gweithdy Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin

Grŵp o fyfyrwyr

Ar 12 Mehefin, gaeth myfyrwyr cyfryngau cyfle arbennig i gyd weithio gyda chwmni proffesiynol o'r enw Carlam sydd yn rhan o gymuned Yr Egin, Caerfyrddin i greu rhaglen byw ac yna ei ffrydio yn fyw. 

Buont yn gweithio fel rhan o grŵp i gyflawni tasg o dan amodau amser penodol gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, cynhyrchu a gwaith camera. Cawsant brofiad o gynllunio, ffilmio a golygu cynnwys promo gan ystyried yr elfennau gwahanol o greu rhaglen.

“Roedd yn weithdy gwych ac roedd bob myfyriwr eisiau cymryd rhan. Roedd yr Egin yn hapus iawn gyda chanlyniadau’r myfyrwyr ac wedi atgoffa bod nhw’n cynnig profiadau gwaith” meddai Siân Fisher, Swyddog Cymraeg y Coleg.