Skip to main content
Gwisgoedd yn cael i'w harddangos ar llwyfan Eisteddfod yr URDD

Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr yn yr Urdd

Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn wythnos diwethaf.  Bu dros 60 o fyfyrwyr i gyd yn cystaldu mewn amrywiol gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref. Coleg Gŵyr Abertawe oedd y coleg addysg bellach fwyaf llwydianus o’r holl golegau yng Nghymru eleni.

ROWND GENEDLAETHOL

Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees

Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Sam Sarsero | 2il Morgan Mason

Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Steffan Thomas | 3ydd Archie Craven

Ffotograffiaeth: Cyfres o luniau du a gwyn Bl10 a dan 19 oed – 1af Emily Delegado-Bellido

Argraffu Bl10 a dan 19 oed – 3ydd Yasemin Koyuncu

Ffasiwn Bl10 a dan 19 oed – 3ydd Talia Streater

Prosiect Gwyddonol Bl10 a dan 19 oed – 1af Elizabeth Roe | 2il Jessica Bradley | 3ydd Georgia Reid

Gofal Plant Bl10 a dan 19 oed -  1af Lottie Arnold a Freya Jory| 3ydd Jessica Johnson, Alyssa Dyer a Keira Wren

Unawd S.A. Bl10 a dan 19 oed – 3ydd Katherine Foxhall

ROWND RHANBARTHOL Gorllewin Morgannwg

Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees | 2il Nia Addicott | 3ydd Wanesa Kazmierowska

Graffeg Cyfrifiadurol Bl.10 a dan 19 oed – 1af Wanesa Kazmierowska 2il Kurt Winer

Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Morgan Mason | 2il Sam Sarsero

Ffotograffiaeth: Llun du a gwyn Bl 10 a dan 19 oed – 1af Shay Graham | 2il Dylan Bowen

Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Archie Craven | 2il Steffan Thomas | 3ydd Nia Addicott

Ffotograffiaeth: Cyfres o luniau du a gwyn Bl10 a dan 19 oed – 1af Emily Delegado-Bellido | 2il Rachel Smith

Argraffu Bl10 a dan 19 oed – 1af Nia Addicott | 2il Yasemin Koyuncu | 3ydd Oscar O’Sullivan

Ffasiwn Bl10 a dan 19 oed – 2il Talia Streater | 3ydd Rachel Alexander

Unawd S.A. Bl10 a dan 19 oed – 1af Katherine Foxhall

Llefaru unigol Bl10 a dan 19 oed – 3ydd Cai Forrest

Yn ogystal â hyn aeth gwobr arbennig i ddwy fyfyriwr; y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg i Lara Rees am gyflwyno’r darn o waith gorau i’r rhai dan 19 o’r holl gystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yn yr eisteddfod. Ysgoloriaeth i’r unawdydd mwyaf addawol i Katherine Foxall.  Derbyniodd Lara a Katherine eu medalau mewn seremoni arbennig yn y pafiliwn ar faes yr Eisteddfod. 

“Mae Lara yn astudio ar gwrs Celf Gain gyda Gill Day-Thomas a Nigel Williams ar gampws Gorseinon, a gweddill y myfyrwyr i gyd unai ar y cwrs Celf Gain neu Ffotograffiaeth gyda Vivienne Ventress, Graffeg gyda Gary Hope, Gofal Plant gyda Mari Tierney a Rhian Evans a Tecstiliau gyd aPaige McCann Gray, Gwyddoniaeth gyda Ffion Roberts a Cymraeg Ail Iaith gyda Rhian Lloyd a Mari Jones a Cerdd gyda Jon Rogers” meddai’n Rheolwr y Gymraeg, Anna Davies. 

“Diolch yn fawr iddyn nhw am annog y myfyrwyr i gystadlu.  Hoffwn ddweud llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr uchod, sydd wedi llwyddo mewn cystadleuaeth uchel ei pharch. Mi ydym yn falch iawn iawn ohonyn nhw.”

Mae Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri yn ystod hanner tymor mis Mai.  Mae’r holl ennillwyr yn cael eu gwahodd i dderbyn eu tystysgrif a medal ar ddydd Sadwrn 2il Fehefin, ac mae eu gwaith i’w gweld yn yr arddangosfa Gelf drwy gydol yr wythnos.