Skip to main content
Urdd sport training success for student

Llwyddiant hyfforddiant yr Urdd i fyfyriwr

Ymunodd Rebecca Jones, myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe, a’r Urdd ar eu Penwythnos Hyfforddiant Chwaraeon yn Aberystwyth yn ddiweddar. 

Drwy weithio mewn partneriaeth a Phrifysgol Aberystwyth, crëwyd  'SuperTeams' lle bu bobl ifanc ledled Cymru yn dod at ei gilydd a chystadlu mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, nofio, athletau a pêl-osgoi.

Ar ddiwedd y cwrs, roedd pawb wedi cwblhau cwrs hyfforddiant Arweinwyr Chwaraeon Diwrnod a chymhwyster Arweinwyr Athletau, a chael y  cyfle i gwblhau hyfforddiant Arweinwyr Rygbi ac Arweinwyr Tenis.  Buont hefyd yn cymdeithasu yn Gymraeg wrth wylio gem Cymru v Awstria yn Undeb Prifysgol Aberystwyth, a chael blas ar fywyd prifysgol.

“Bu’n benwythnos llwyddiannus iawn, ac yn gyfle gwych i gwrdd â chymaint o bobl ifanc a chreu hyfforddwyr y dyfodol,” meddai Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg, Anna Davies.  “Ar ddiwedd y cwrs bu trafodaethau rhanbarthol ynglŷn â chyfleoedd hyfforddi gyda'r Urdd, ac erbyn hyn mae Rebecca wedi dechrau gwaith gwirfoddol o fewn Clwb Pêl-rwyd yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Olchfa o ganlyniad i’r hyfforddiant sydd yn newyddion gwych!”