Skip to main content

Profion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt

Rydym yn ymwybodol bod rhai o’n dysgwyr wedi cael problemau technegol sylweddol yn eu profion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt yn ddiweddar.

Roedd y rhain yn broblemau cenedlaethol, a brofwyd gan ymgeiswyr ledled y DU.

Roedd tarfiadau technegol wedi effeithio ar y profion a safwyd ar-lein, yn enwedig y Prawf Derbyn Mathemateg (MAT) a’r Prawf Derbyn Saesneg Llenyddiaeth (ELAT).

Mae Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa hon.

Rydym yn cynorthwyo ein hymgeiswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y tarfiadau hyn ac rydym wedi casglu’r holl broblemau y gwyddom amdanynt er mwyn cyflwyno ffurflenni Ystyriaethau Arbennig ym mhob achos.

Dr. Emma Smith, Cydlynydd Rhydgrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe.