Skip to main content
Delwedd graffigol gan Gymdeithas y Colegau yn cyhoeddi bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Ehangu Cyfranogiad.

Rowndiau terfynol Gwobrau Beacon CyC 2023/24

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ar gyfer un o Wobrau Beacon clodfawr Cymdeithas y Colegau ar gyfer Ehangu Cyfranogiad.

Mae Gwobrau Beacon yn dathlu arferion gorau a mwyaf arloesol colegau addysg bellach y DU. Rheolir y digwyddiad gan CyC ac fe’i cynigir drwy Ymddiriedolaeth CyC - Elusen gofrestredig.

Bwriad y rhaglen wobrwyo yw arddangos a hyrwyddo effaith gynhwysfawr colegau ar eu myfyrwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd yr astudiaethau achos buddugol yn cael eu defnyddio i gynyddu dealltwriaeth o gyfraniad colegau at bolisi sgiliau addysgol a datblygiad economaidd a chymdeithasol.

Bydd y weithdrefn farnu yn cynnwys proses asesu dau gam a fydd yn ystyried adborth gan y sector. Bydd adolygiad gwobrau parhaus hefyd yn cael ei gynnal dan arweiniad Prif Aseswr Gwobrau Beacon CyC. Mae 9 categori ar gyfer gwobrau 2023-24 Dyfernir y gwobrau gan aseswyr annibynnol a bydd Prif Aseswr annibynnol yn sicrhau cysondeb ar draws y categorïau.  Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfrinachol ar y dechrau er mwyn sicrhau didueddrwydd. Bydd colegau sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael ymweliad gan un o gynrychiolwyr CyC.

Dywedodd Mark White CBE DL, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol CyC:

“Mae Gwobrau Beacon CyC yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae’r wobr hon yn cydnabod rôl hanfodol byrddau, llywodraethwyr a gweithwyr llywodraethu proffesiynol wrth ddatblygu’r gallu i gyflawni gwelliant parhaus o ran ansawdd y ddarpariaeth a gynigir i fyfyrwyr.

Bydd enillwyr Gwobrau Beacon CyC yn cael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2024.