Skip to main content
Myfyrwyr yn y dŵr

Sblasio ar gyfer elusen

Mae grŵp o fyfyrwyr a staff eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC). Maen nhw eisoes wedi codi dros £800!

Mae PAGC yn cefnogi Ysgol Gynradd Madungu yng Ngorllewin Cenia, gan helpu i leihau meintiau dosbarthiadau a gwella’r ddarpariaeth addysg i gannoedd o ddisgyblion.  

Mae 'trochfa'r tymor’ yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae’r myfyrwyr yn ei drefnu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen.

Gellir gwneud rhoddion i: https://www.totalgiving.co.uk/mypage/walrusdip