Skip to main content
Mark Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Ruth Owen Lewis a Jeannie Yu gyda'r grŵp

Ymweliad â Tseina

Fe wnaeth Mark Jones, Prif Swyddog Gweithredol a Jeannie Yu o adran Ryngwladol CGA fynd ar daith bwysig iawn ar draws Tseinia i gryfhau partneriaethau ac archwilio cydweithrediadau newydd. Ar eu taith brysur, fe ymwelwyd â dinasoedd mawr megis Beijing, Tianjin, Shenyang, Dalian, Anshan, Shanghai, Chongqing, Guangzhou a Hong Kong, lle cyfarfuwyd â nifer o bartneriaid o ysgolion, colegau, prifysgolion a chanolfannau astudio. 

Nod y daith - a ysgogwyd gan ymrwymiad Coleg Gŵyr Abertawe i ryngwladoli - oedd meithrin partneriaethau ac archwilio cyfleoedd addysgol ledled Tseinia. Mae cydweithrediadau o’r fath yn cynnwys rhannu arferion gorau, cyfnewid myfyrwyr, hyfforddiant athrawon a rhaglenni academaidd ar y cyd.

Mae’r daith yn enghraifft o ymrwymiad Coleg Gŵyr Abertawe i ardderchowgrwydd ac ymgysylltu byd-eang, wrth i ni sefydlu seiliau ar gyfer darpar bartneriaethau sy’n cyfoethogi profiadau addysgol.