Skip to main content

Photoshop Creative Cloud – Canolradd (CDP)

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Dysgwch bopeth am Adobe Photoshop ar y cwrs canolradd hwn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Tyfwch eich sgiliau digidol gan ddefnyddio Photoshop Creative Cloud.

Mae’r defnydd o Photoshop o’n cwmpas ni i gyd – mae’r mwyafrif o ddelweddau a welwch mewn hysbysebion, ar y cyfryngau cymdeithasol neu ym mhob man bron, fwy na thebyg wedi cael eu golygu. Wrth i ni symud yn ddyfnach i’r oes ddigidol, mae’r galw am sgiliau Photoshop yn parhau i dyfu.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gynyddu’ch sgiliau ymhellach mewn Adobe Photoshop. Drwy gwblhau’r cwrs hwn, cewch gyfle i archwilio rhai o arfau a thechnegau uwch Photoshop. Addysgir y cwrs mewn cyfnodau dysgu byr wedi’u dilyn gan aseiniad y mae’n rhaid i chi ei gwblhau. Mae hyn yn sicrhau, yn ogystal â dysgu sgiliau mewn Adobe Photoshop, y gallwch chi roi’r sgiliau hyn ar waith yn annibynnol hefyd.

Sgiliau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn:

  • Trin delweddau uwch 
  • Adfer hen ddelweddau 
  • Lliwio delweddau 
  • Sgiliau cymysgu delweddau uwch.

Gwybodaeth allweddol

Gan mai cwrs canolradd yw hwn, mae angen lefel sylfaenol o brofiad Photoshop arnoch. 

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth a’i asesu trwy dasgau gweithdy yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs yn para 10 wythnos am ddwy awr a hanner yr wythnos. 

Bydd y sgiliau a’r technegau a ddysgwyd ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau fel ffotograffiaeth, marchnata, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, dylunio graffig ac ati. 

Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi’r sgiliau gofynnol i chi astudio cwrs Gradd Sylfaen mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol, sy’n cael ei gynnig ar Gampws Tycoch.