Skip to main content

Prentis Coleg Gŵyr Abertawe ar ei ffordd i Rwsia

Prentis o Goleg Gŵyr Abertawe yw'r myfyriwr cyntaf o Gymru i gael ei gynnwys yn nhîm Worldskills y DU yn y sector Electroneg Ddiwydiannol.

Bydd James Williams, sy'n gweithio yn Haven Automation yn Fforestfach, yn cael dwy flynedd o hyfforddiant arbenigol dwys a allai ei gymryd yr holl ffordd i Rownd Derfynol y Byd Worldskills yn Kazan, Rwsia, yn 2019.

Llongyfarchiadau i'r Academi Rygbi

Llongyfarchiadau i Academi Rygbi'r Coleg sydd wedi ennill cwpan y Gweill dan 18 i gyd-fynd â'i buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Colegau Cymru.

Mae llwybr y tîm i'r rownd derfynol fel a ganlyn:

Grŵp 2
CGA yn erbyn Coleg Cymunedol y Dderwen (36 - 0)
CGA yn erbyn Ystalyfera/Maesteg Select (32 - 5)

Rownd Gynderfynol
CGA yn erbyn Coleg Castell-nedd (29 - 5)

Rownd Derfynol
CGA yn erbyn Bryn Tawe (36 - 0)

Aelodau'r tîm:

Llwyddiant mewn cystadleuaeth sgiliau i fyfyriwr electroneg o Abertawe

Mae bachgen 22 oed o Mayhill wedi cipio’r fedal aur mewn electroneg, yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir mewn colegau ar hyd a lled y wlad yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr cyflogedig arobryn, hynod fedrus ar gyfer gweithlu Cymru.

Tîm Technoleg Ddigidol yn edrych ymlaen at Ffair y Glec Fawr

Roedd llwyddiant myfyrwyr Technoleg Ddigidol yn destun balchder i Goleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar yn ystod Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Worldskills yn Birmingham NEC.

Roedd y myfyrwyr, ynghyd â’r darlithwyr Steve Williams a Clive Monks a’r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Teresa Jayathilaka, wedi treulio pum diwrnod dwys yn paratoi ar gyfer y sioe, ac yn cymryd rhan ynddi.

Cafodd Sara Vonk a Chloe Moore y dasg o redeg Arddangosfa Electroneg Ddiwydiannol yn ystod y digwyddiad, ac roedd cannoedd o bobl wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog ac addysgol.

Llwyddiant myfyriwr Arlwyo gyda’r Urdd

Daeth myfyriwr Coginio Proffesiynol o Goleg Gŵyr Abertawe i’r brig yng nghystadleuaeth CogUrdd yr wythnos hon a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe.

Enillodd Jacqueline sy’n fyfyriwr Lefel 3 ar gampws Tycoch y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth 19-25 oed a bydd yn awr yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili ym mis Mai.

Nod y gystadleuaeth oedd creu prif gwrs addas ar gyfer Prif Weithredwr yr Urdd, gan gynnwys o leiaf dau gynhwysyn Cymreig. Pryd o gig oen Cymreig gyda saws mêl a Penderyn oedd creadigaeth Jacqui.