Skip to main content
Gwdihŵs CGA yn barod i ledu eu hadenydd yn Epic Lan 41

Gwdihŵs CGA yn barod i ledu eu hadenydd yn Epic Lan 41

Mewn cyhoeddiad hirddisgwyliedig, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datgelu y bydd tîm o fyfyrwyr o’u tîm e-Chwaraeon Gwdihŵs CGA yn ymddangos am y tro cyntaf yn Epic Lan 41, gan gystadlu yn nhwrnamaint Valorant.

Mae’r cam hwn ymlaen yn nodi pennod gyffrous arall yn nhaith e-Chwaraeon y Coleg wrth iddo barhau i greu argraff yn y tirlun gemio cystadleuol a chymryd rhan yn ei gystadleuaeth LAN fawr gyntaf.

Mae Epic Lan yn uchel ei barch yn y gymuned e-Chwaraeon am greu awyrgylch egnïol sy’n dod â selogion gemio a chwaraewyr ymroddgar ynghyd. Yn hyb ar gyfer rhagoriaeth ym maes e-Chwaraeon, mae Epic Lan yn darparu llwyfan ar gyfer cystadlu dwys. Yn ogystal, mae’n darparu gofod lle gellir gwneud ffrindiau a rhannu diddordeb angerddol mewn gemio.

Wrth baratoi ar gyfer y cyfle nodedig hwn, mae Gwdihŵs CGA wedi cael cefnogaeth gan eu partneriaid diwydiant, yn enwedig Corsair, GT Omega a The Game Collection (adwerthwr gemau ar-lein blaenllaw yn y DU sy’n arbenigo mewn PlayStation, Xbox, Switch, a gemau cyfrifiadur personol) sy’n cydweithio â Choleg Gŵyr Abertawe i ddod â’r fenter gyffrous hon yn fyw.

Roedd Dan Davies, Prif Hyfforddwr Valorant a Rheolwr Gemio Cymunedol Gwdihŵs CGA, yn falch o weld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor fawreddog.

“Mae cystadlu yn Epic Lan 41 yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr i e-Chwaraeon,” meddai. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i dîm rheoli’r Coleg a’n partneriaid yn y diwydiant am wneud y daith hon yn bosibl.”

Fe aeth Kiran Jones, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Gwdihŵs CGA, ymlaen i bwysleisio’r llawenydd cyffredinol a deimlir ymhlith staff, gan ddweud:

“Mae digwyddiadau fel Epic Lan 41 yn rhoi profiadau a chyfleoedd amhrisiadwy i’n myfyrwyr. Mae ein partneriaethau ag arweinwyr diwydiant fel GT Omega a The Game Collection yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynnig addysg gyflawn ym maes e-Chwaraeon, sy’n ymestyn y tu hwnt i ddysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth."

Mae ymroddiad Coleg Gŵyr Abertawe i ddarparu addysg gynhwysfawr mewn e-Chwaraeon i’w weld yn eu hymdrechion i gysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol diwydiant. Fel rhan o’u darpariaeth addysg e-Chwaraeon, mae’r Coleg yn trefnu anerchiadau gan bobl amlwg o’r diwydiant. Yn ddiweddar mae siaradwyr wedi cynnwys Neilzinho o Heretics, Yangsin o Cloud9 ac Anne Fish, chwaraewr cystadleuol Fortnite a chreawdwr cynnwys.

Gwnaeth Cyfarwyddwr Gwdihŵs CGA, Neil Griffiths, sylwadau ar effaith y trafodaethau hyn, gan ddweud:

“Mae gwrando ar fewnwelediadau a phrofiadau gweithwyr proffesiynol yn hynod ysgogol i’n myfyrwyr. Nid yn unig mae’n gwella eu sgiliau technegol ond mae hefyd yn ehangu eu dealltwriaeth o’r ecosystem e-Chwaraeon.”

Tra bod tîm Valorant Gwdihŵs CGA wedi cyrraedd safle rhif 1 trawiadol yn Rhaniad y Gaeaf o adran genedlaethol y DU ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain - heb eu trechu – maen nhw’n cydnabod y bydd Epic Lan yn her unigryw.

Dywedodd capten y tîm Ashton O'Brien:

“Heb os, bydd Epic Lan yn anodd, ond rydyn ni’n gobeithio cyrraedd y 10 Uchaf. Ein prif nod yw mwynhau’r digwyddiad, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau’r profiad. Rydyn ni'n barod am yr her, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld beth ddaw yn y twrnamaint.”

Mae’r cyhoeddiad hwn nid yn unig yn garreg filltir arwyddocaol i Goleg Gŵyr Abertawe ond mae’n esiampl ysbrydoledig i ysgolion a cholegau eraill sy’n ystyried cymryd rhan mewn digwyddiadau Epig/LAN yn y dyfodol.

Mae taith Gwdihŵs CGA yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i feithrin talent e-Chwaraeon a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr ddisgleirio ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Wrth i Gwdihŵs CGA ledu eu hadenydd yn Epic Lan 41, mae’r gymuned e-Chwaraeon yn edrych ymlaen yn fawr at eu perfformiad ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn yr ymdrech gyffrous hon.​