Mae darlithydd Coleg Gŵyr Abertawe Kiran Jones yn mynd i arddangosfa BETT 2023 fel siaradwr arbennig.
Bett 2023 yw’r arddangosfa technoleg addysg fwyaf yn y byd a bydd yn cael ei chynnal yn ExCel Llundain yn ystod 29-31 Mawrth.
Bydd Kiran, sy’n addysgu Cyfrifiadura, TG ac e-Chwaraeon ar Gampws Tycoch ac yn goruchwylio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol tîm hynod lwyddiannus Gwdihŵs CGA, yn cymryd rhan yn y drafodaeth Level Up in Esports Education ar 30 Mawrth.
Fel un o’r colegau cyntaf yn y DU i redeg y cwrs e-Chwaraeon, bydd Kiran yn trafod yr elfennau dysgu, addysgu ac asesu. Yn ogystal, bydd yn sôn am y cyllid sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer hyfforddiant e-Chwaraeon.
Bydd pwysigrwydd partneriaethau gwaith hefyd yn rhan o anerchiad Kiran, yn benodol y cysylltiadau y mae’r Coleg wedi’u meithrin gydag e-Chwaraeon Cymru a chystadlaethau proffesiynol eraill, Williams F1 Esports a Chynghrair Rasio Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain.
“Dwi wir yn edrych ymaen at allu rhannu fy mhrofiadau â’m cyd-ddarlithwyr ac arbenigwyr y diwydiant a chael cysylltiadau newydd i ddatblygu’r cwrs ymhellach eto,” meddai Kiran.