Skip to main content

Prydau Bwyd Fforddiadwy i’r Teulu

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae coginio ar gyllideb yn fwy pwysig nag erioed! Bob wythnos, cewch gyfle i feistroli’r grefft o baratoi a choginio pryd o fwyd maethlon ac iach ar gyllideb, y gallwch ei wneud gartref i’ch teulu a’ch ffrindiau.  

Byddwch yn paratoi amrywiaeth o seigiau addas i’r teulu, gan ddefnyddio cynhwysion ffres, wrth ddefnyddio technegau coginio newydd. Byddwch hefyd yn dysgu i addasu ryseitiau i gynnwys blasau a chynhwysion gwahanol. 

  • Sesiwn 1 – Cyflwyniad ac arddangosiad coginio
  • Sesiynau 2-10 – Sesiynau ymarferol, gyda gwerthusiad cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau. 

18+ oed

Gan eich bod yn gweithio ym maes cynhyrchu bwyd:  

  • Dim gemwaith na thlysau 
  • Dim farnais ewinedd nac ewinedd jel  
  • Caniateir ychydig iawn o golur.

Arddangosiadau gan y darlithydd, gwaith ymarferol.  

Ni fydd asesiad ffurfiol.

Drwy gydol y sesiynau, cewch adborth geiriol, ynghyd ag awgrymiadau a chymhorthion defnyddiol. 

Byddwn ni’n darparu ryseitiau, ac rydyn ni’n eich annog i gadw’r rhain mewn portffolio bach.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn. Gallech ddewis dilyn cwrs byr, anachrededig arall.

Gan eich bod yn paratoi bwyd, mewn cegin fasnachol, rhaid i fyfyrwyr ddarparu’r canlynol: 

  • Het a gymeradwyir gan y diwydiant (rhwyd wallt o leiaf) 
  • Cot wen (ffedog o leiaf) 
  • Esgidiau caeedig di-lithr.

Bydd cynhwysion yn costio tua £10 yr wythnos. 

Off