Newyddion a Digwyddiadau

Adeilad hanesyddol Plas Sgeti i elwa ar gynlluniau adnewyddu newydd sbon
Mae Plas Sgeti Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cael ei hadnewyddu o dan gynlluniau datblygu arfaethedig newydd.
Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi’i leoli ar diroedd hardd ger Parc Singleton, yn cael ei ail-leoli fel Ysgol Fusnes, yn gartref i amrywiaeth eang o gyrsiau proffesiynol yn ogystal â chymwysterau lefel uwch a phrentisiaethau gradd.

Diwrnod iechyd a lles 2019
Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵr Abertawe wedi cynnal ei ail Ddiwrnod Iechyd a Lles blynyddol ar Gampws Tycoch.
Roedd dros 400 o aelodau o staff wedi mwynhau’r gweithgareddau rhad ac am ddim oedd yn cynnwys ioga, swingball, pêl-fasged chwyddadwy, teithiau cerdded tywys, tai chi, garddio, gwers dawns â thema Greatest Showman, canu a sesiynau tylino corff ymlaciol.

Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019
Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu unwaith eto, yn seremoni Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019.
Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r derbynwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd coleg o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol amser llawn i brentisiaid, dysgwyr AU a chleientiaid o raglenni cymorth cyflogadwyedd y Coleg.

Adran ryngwladol yn ennill gwobr addysg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgol Uwchradd Education First (EF).
Rhoddwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod ei rôl wrth helpu nifer o’i fyfyrwyr i gyflawni canlyniadau Safon Uwch ardderchog a symud ymlaen i rai o brifysgolion mwyaf nodedig y byd.

Chwe gyrfa y gallech eu dechrau yn Abertawe nad oeddent yn bodoli 20 mlynedd yn ôl
Gyda thymor yr arholiadau ar y gweill, bydd myfyrwyr ar draws Abertawe siŵr o fod yn meddwl am yr hyn sy’n dod nesaf, a beth yw eu hopsiynau ar ôl yr arholiadau. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r sefyllfa o ran swyddi wedi newid yn sylweddol - yma i sôn am sut mae rhai o’r cyfleoedd newydd hyn yn edrych yw Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.
Tudalennau
