Skip to main content

Triniaethau Blew Amrant ac Aeliau Lefel 2 - Dyfarniad Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Pump wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Triniaethau Blew Amrant ac Aeliau yn gymhwyster sydd wedi cael ei gynllunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol mewn siapio (â gefel fach) a lliwio (blew amrant ac aeliau). Byddwch yn dysgu sut i gynnal siâp gwreiddiol yr ael neu newid siâp yr ael os dymunir. Byddwch hefyd yn dysgu am nodweddion lliw gwahanol a’r broses gemegol o liwio. 

Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uchel o allu galwedigaethol er mwyn i chi ddarparu triniaethau siapio a lliwio blew amrant ac aeliau. 

  • Darparu triniaethau blew amrant ac aeliau.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

 

 

Gwybodaeth allweddol

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddilyn y cymhwyster hwn  
  • Byddwch yn dod i gyfweliad i sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol er mwyn cofrestru a chyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Triniaethau Therapi Harddwch (Diploma Lefel 2/Lefel 3) neu Drin Gwallt (Diploma Lefel 2)

Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.   
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.