Skip to main content

Technegau Arbenigwr Harddwch Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

 

Mae VTCT Diploma Lefel 2 mewn Technegau Arbenigwr Harddwch yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr a hoffai gael gyrfa fel arbenigwr harddwch cyflogedig neu hunangyflogedig. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel arbenigwr harddwch iau. 

Mae meysydd astudio yn cynnwys: 

  • Gofal croen wyneb 
  • Triniaethau dwylo 
  • Triniaethau traed 
  • Celf ewinedd 
  • Colur 
  • Triniaethau blew amrannau ac aeliau 
  • Technegau cwyro 
  • Gofal cleientiaid a chyfathrebu 
  • Iechyd a diogelwch a theori gysylltiedig. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd gofyn i chi gwblhau asesiad cychwynnol mewn llythrennedd a rhifedd a dod am gyfweliad.  Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu gweithio fel aelod o dîm a meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog. 

Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch neu Diploma Lefel 2 mewn Drin Gwallt.

Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad (mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael). Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw’r DU, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) fel un sy’n addas i’r diben i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.

Explore in VR