Trosolwg o’r Cwrs
Ar y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a gweithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon masnachol. Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu gwybodaeth gadarn o iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu. Mae’r unedau astudio’n cynnwys:
- Triniaethau trydanol ar gyfer yr wyneb a’r corff
- Estyniadau blew amrannau
- Rhoi lliw haul
- Micro-dermabrasion
- Tylino Swedaidd / ag olewau wedi’u cymysgu ymlaen llaw
- Iechyd a diogelwch a theori gysylltiedig
- Anatomeg a ffisioleg
Diweddarwyd Hydref 2021
Explore this location in 3D
Gofynion Mynediad
O leiaf dair gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys mathemateg, Saesneg ac, yn ddelfrydol, gwyddoniaeth neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru cyfwerth mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif.
Neu gymhwyster Lefel 2 cysylltiedig.
Bydd yn ofynnol i’r holl ymgeiswyr ddod am brawf masnach a chyfweliad un i un gydag arbenigwyr pwnc. Rhaid i ymgeiswyr fod â’r gallu i weithio fel aelod o dîm a bod â sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch hefyd yn gwneud profiad gwaith bob wythnos.
Cyfleoedd Dilyniant
Gallai’r cymhwyster arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth fel uwch therapydd harddwch mewn salon/sba harddwch neu hunangyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu cit ac iwnifform.