Trosolwg o’r Cwrs
Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu’ch sgiliau trin gwallt a gweithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon masnachol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid
- Siampŵo, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
- Lliwio a goleuo gwallt
- Steilio gwallt
- Torri gwallt merched
- Torri a steilio gwallt dynion
- Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Plethu / troelli gwallt.
Byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau mewn mathemateg, Saesneg a chyflogadwyedd.
Diweddarwyd Hydref 2021
Explore this location in 3D
Gofynion Mynediad
Yn ddelfrydol, gradd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg neu Lefel 2 mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd gofyn i chi gwblhau asesiad cychwynnol mewn llythrennedd a rhifedd.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos, gan dreulio amser yn y salonau a’r ystafell ddosbarth. Mae’r holl asesiadau’n barhaus ac yn cynnwys arsylwadau ymarferol a phrofion ysgrifenedig.
Cyfleoedd Dilyniant
NVQ Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth mewn salon fel steilydd.
Mae cyrsiau cysylltiedig eraill yn cynnwys Technegau Arbenigwr Harddwch Lefel 2 neu Driniaethau Sba a’r Corff Lefel 3.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr brynu cit trin gwallt, iwnifform ac ati. Mae hyn oll yn costio tua £350 ac efallai y byddwch yn gallu cael gafael ar gyllid ar gyfer hyn.
Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 yn gallu prynu cit ‘ychwanegol’ am tua £90 ac iwnifform newydd os bydd angen (eto, efallai y bydd myfyrwyr yn gallu cael gafael ar gyllid ar gyfer hyn).