Skip to main content
Saith gyrfa y gallech eu lansio ar ôl y Coleg

Saith gyrfa y gallech eu lansio ar ôl y Coleg

Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn nodi'r bennod nesaf ym mywyd oedolyn ifanc. Wrth i chi symud yn nes at fyd go iawn addysg uwch a chyflogaeth, mae penderfynu ar gynllun ar gyfer y dyfodol yn gallu ymddangos yn dipyn o dasg.

Efallai y bydd rhai yn gwneud penderfyniadau mympwyol ynghylch eu cyrsiau Safon Uwch/galwedigaethol, heb feddwl llawer am y peth (os o gwbl). Ond mae'n bwysig cofio y gall y dewisiadau hynny ddylanwadu ar eich dyfodol. Felly, dewiswch yn ddoeth!

I wneud pethau ychydig yn haws, dyma saith gyrfa y gallwch eu dechrau gyda chymorth y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Wrth gwrs, mae llawer mwy na saith dewis gyrfa ar gael, ond mae’n fan cychwyn da.

Criw Caban Awyr
Yr yrfa ddelfrydol i'r rhai sy'n awyddus i deithio'r byd. Mae bod yn aelod o griw caban awyr yn freuddwyd i’r byd-grwydryn. Nid yw’n ymwneud yn unig â phwyntio at allanfeydd brys, mae’r rôl yn cynnwys nifer o gyfrifoldebau megis rhoi sylw i deithwyr  â gofynion arbennig, cynnal gwiriadau diogelwch ac ysgrifennu adroddiadau hedfan. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod gennych amserlen hyblyg gan nad yw’n ddiwrnod gwaith 9-5 arferol. Ond, os gallwch ddygymod â’r oriau rhyfedd, mae manteision y swydd yn cynnwys gostyngiadau hedfan sylweddol ac mae’r rhain yn gallu bod yn berthnasol i deulu a ffrindiau hefyd. Ydy hyn yn swnio fel gyrfa berffaith i chi? Edrychwch ar y cyrsiau Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth yn ymgeiswyr perffaith ar gyfer criw caban awyr diolch i gaban awyren ffug pwrpasol ar Gampws Tycoch ac amrywiol deithiau drwy gydol y flwyddyn i feysydd awyr ac academïau hyfforddi.

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflog aelod o griw caban awyr yn dechrau ar £12,000- £14,000. Gyda phrofiad, gall hyn gynyddu i £20,000.

Therapydd Chwaraeon
Mae gwaith therapydd chwaraeon yn ymwneud â lles a ffitrwydd cyfranogwyr chwaraeon. Mae'r alwedigaeth hon yn canolbwyntio ar atal anafiadau trwy asesu ffitrwydd cleientiaid, yn feddyliol ac yn gorfforol. Pan fydd anaf, cyfrifoldeb y therapydd chwaraeon yw cynnal yr asesiad priodol a datblygu rhaglen adsefydlu wedi’i chynllunio’n arbennig. Felly, os ydych chi'n hoff iawn o chwaraeon ond nid ydych yn dda iawn o ran cymryd rhan, byddai'r llwybr hwn yn addas i chi. Os ydych chi'n meddwl y byddech yn mwynhau'r math hwn o yrfa, mae'r cwrs Hyfforddi, Ffitrwydd a Datblygu Chwaraeon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn fan cychwyn gwych. Mae’n fwy na chwrs ystafell ddosbarth safonol - mae myfyrwyr hefyd yn ennill cymwysterau ychwanegol fel Cymorth Cyntaf a Dyfarniadau NGB, fydd yn rhoi hwb gwych i’ch CV!

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflog therapydd chwaraeon yn dechrau ar £17,000. Gyda phrofiad, gall hyn gynyddu i hyd at £28,000. Mae unigolion sy'n gweithio o fewn tîm proffesiynol yn gallu ennill hyd at £35,000.

Rheolwr Adeiladu
Mae gweithio ym maes adeiladu yn golygu mwy na chodi tai a diwrnodau diddiwedd ar safle adeiladu gwlyb a gwyntog. Gallai bod yn rheolwr adeiladu roi cyfle i chi sefydlu busnes newydd ac ar yr un pryd gallech ddysgu sut i arwain tîm a gweithio i derfynau amser tynn. Mae bob dydd yn wahanol, o ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau i gynllunio a chyfathrebu â gweithwyr. I ddechrau eich gyrfa fel rheolwr adeiladu, edrychwch ar y cwrs Adeiladu (aml-sgiliau) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a datblygu'ch sgiliau i wireddu hyn.

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflog Rheolwr Adeiladu yn dechrau ar £27,000 - £30,000. Gall Rheolwyr Profiadol ennill £70,000. "

Cynrychiolydd Artistiaid a Repertoire (AR)
I fod yn gynrychiolydd AR gwych rhaid bod ag awydd i ddarganfod y gorau mewn cerddoriaeth newydd. Curiad calon unrhyw label recordiau lwyddiannus yw’r adran AR sy’n chwilio am artistiaid newydd i sicrhau bod y cwmni'n parhau i fod yn gyfredol ac ar y blaen. Nid yw angerdd dros gerddoriaeth yn ddigon. Rhaid i gynrychiolwyr AR fod â gwybodaeth gadarn o’r sîn gerddoriaeth yn gyffredinol. Mae’r rôl hon yn golygu mwy na darganfod artistiaid newydd oherwydd mae’n cynnwys helpu artistiaid sydd wedi’u harwyddo i ddatblygu a thyfu. Felly, gallai dilyn yr yrfa hon olygu y byddwch yn gyfrifol am yr Ed Sheeran nesaf! Heb amheuaeth, dyma alwedigaeth gyffrous a chyflym a all ddechrau gyda chwrs Cerddoriaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Caiff myfyrwyr eu haddysgu ym mhob genre cerddoriaeth, cyfnod ac agwedd ar y diwydiant i sicrhau amrywiaeth eang o wybodaeth gerddorol..

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflogau Cynrychiolwyr AR yn dechrau ar ryw £20,000 ond gall hyn fod yn fwy na £60,000 gyda phrofiad.

Ffisiotherapydd
Os oes gennych angerdd dros helpu pobl mewn angen a diddordeb mewn astudio gwyddoniaeth, efallai mai dyma'ch galwad chi. Yn alwedigaeth wirioneddol foddhaol, gall y rôl hon wneud newidiadau amhrisiadwy i ansawdd bywyd unigolyn. Mae gan bob cleient anafiadau penodol ac unigryw, ac felly mae'r swydd hon yn berffaith i'r rhai sydd â sgiliau cyfathrebu a datrys problemau cryf. Mae pob dydd yn wahanol gan y byddwch yn trin nifer o gyflyrau fel poen cefn, chwiplach, ffibrosis y bledren, asthma ac anafiadau chwaraeon. Gallai eich man gwaith amrywio o'r GIG, ysbytai a chlinigau preifat, clybiau chwaraeon a champfeydd a phractisau preifat. Os yw ffisiotherapydd yn swnio fel eich math chi o lwybr gyrfa, edrychwch ar y cyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol neu’r cyrsiau Mynediad i Wyddoniaeth sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflog cychwynnol ffisiotherapydd yn amrywio o £21,909 i £28,462. Gyda phrofiad gallwch ennill rhwng £26,302 a £35,225.

Peiriannydd Cemegol
Fel peiriannydd cemegol, byddwch yn dylunio a datblygu ystod amrywiol o gynhyrchion. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar archwilio a dylunio'r peiriannau a ddefnyddir i droi deunyddiau crai yn gynhyrchion cyffredin fel tanwydd a phlastig. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth o fathemateg a gwyddoniaeth i'ch helpu i oresgyn problemau a chreu atebion, ac ar yr un pryd sicrhau bod canllawiau iechyd a diogelwch yn cael eu cymhwyso'n ddyddiol. Gallwch weithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys ynni, bwyd a diod, olew a nwy, fferylliaeth, plastigion a thrin dŵr. Os ydych yn mwynhau datrys problemau, dylai'r yrfa hon fod yn addas i chi. I wybod rhagor, edrychwch ar y cyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae cyflogau’n dechrau tua £28,500 ond, yn achos peirianwyr cemegol siartredig, gall hyn gynyddu i £70,000.

Datblygwr Gwe
Gyda chystadleuaeth ymhlith busnesau mor ffyrnig ag erioed, cael y wefan orau yw'r dymuniad pennaf. Felly mae'n gywir dweud bod y galw am ddatblygwyr gwe ar gynnydd. Yn dibynnu ar y swydd-ddisgrifiad, gall cyfrifoldebau datblygwr gwe amrywio o ddatblygu meddalwedd y wefan i ganolbwyntio ar olwg a dyluniad y wefan. Mae heriau dyddiol yn cynnwys cynnal diogelwch y wefan trwy rwystro neu atgyweirio bygiau, dylunio cymwysiadau a chwrdd â dylunwyr. Mae'r cyrsiau Technoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa ym maes datblygu gwe. Mae gan y cwrs hwn ymagwedd gymhwysol at addysgu, oherwydd mae’n caniatáu i fyfyrwyr greu gwefannau a rhaglenni ynghyd â datblygu cynhyrchion digidol.

Cyflog blynyddol posibl - mae cyflog datblygwr gwe yn dechrau ar £19,000 - £25,000. Fel arfer mae datblygwyr arweiniol yn ennill rhwng £35,000 a £50,000.

DIWEDD