Skip to main content

Diflewio â Chwyr Lefel 2 - Dyfarniad Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
17 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Diflewio â Chwyr yn gymhwyster sydd wedi cael ei gynllunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol o ran sut i ddiflewio gan ddefnyddio technegau cwyro. 

Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o arferion iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon, gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch. Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd drwy gydol y cymhwyster hwn. 

Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau therapi harddwch i lefel uchel o allu galwedigaethol er mwyn i chi berfformio’ch gwasanaethau salon eich hun. 

  • Diflewio gan ddefnyddio technegau cwyro 
  • Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch     
  • Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

 

Gwybodaeth allweddol

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddilyn y cymhwyster hwn  
  • Byddwch yn dod i gyfweliad i sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol er mwyn cofrestru a chyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1.  

Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.

Triniaethau Therapi Harddwch (Diploma Lefel 2/Lefel 3) neu Drin Gwallt (Diploma Lefel 2)
Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.   
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.