Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr

Blwyddyn newydd, chi newydd? Cyrsiau rhan-amser yn dechrau ym mis Ionawr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Photo of student Sian Charlton

Wrth i ni groesawu’r Flwyddyn Newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn eich gwahodd i wella’ch sgiliau gyda’u cyrsiau rhan-amser.

P’un a ydych yn ystyried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gwrs rhan-amser i chi. Ac mae rhai ohonynt yn rhad ac am ddim.

Byddwch yn greadigol gyda chyrsiau mewn sgrin-brintio, blodeuwriaeth neu ffotograffiaeth. Rhowch gynnig ar grefft gyda chyrsiau i ddechreuwyr mewn gosod brics, gwaith coed, plastro neu blymwaith. Neu datblygwch eich gyrfa trwy ddosbarthiadau cyfrifeg, cyfryngau cymdeithasol neu godio amrywiol.

Ynghyd â chyrsiau peirianneg, coginio, cwnsela, ieithoedd, harddwch a chwaraeon – bydd gennych ddigonedd o ddewis!

Tanio dyfodol newydd: o’r ystafell ddosbarth i’r farchnad

Mae Sian Charlton yn athrawes ysgol gynradd wedi’i hymddeol a gwnaeth ei merched hi ei chofrestru ar gwrs Technegau Gwydr deg wythnos ar gyfer Sul y Mamau eleni.

“Dwi bob amser wedi mwynhau crefftio, ond roedd gwydr yn gyfrwng nad oeddwn wedi gweithio gydag ef o’r blaen. Roeddwn i ychydig yn nerfus yn mynd i’r dosbarth cyntaf, ond cefais groeso cynnes iawn gan bawb.

“Mae’r athro, Ali, yn wirioneddol ysbrydoledig ac mae’n addysgu technegau newydd i ni bob wythnos. A dwi wedi cwympo mewn cariad gyda gwydr cymaint fel bod odyn microdon gyda fi gartref!

“Dwi wedi gwerthu fy ngwaith mewn marchnadoedd crefftau amrywiol, ac un o’r uchafbwyntiau eleni oedd arddangos fy mwclis yn Oriel Mission,” meddai.

“Os ydych chi’n ystyried cwrs rhan-amser yn y Coleg - ewch amdani! Dydych chi byth yn gwybod ble gallai fynd â chi.”

Dewch i luosi eich sgiliau – cyrsiau rhifedd am ddim yn y Coleg

Mae’r Coleg hefyd yn falch o lansio rhaglen newydd, gan gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion dros 19 oed sydd yn byw neu’n gweithio yn ardal Abertawe.

Nod y cyrsiau hyn yw helpu unigolion i fagu hyder mewn heriau o ddydd i ddydd lle mae angen dealltwriaeth o fathemateg a rhifedd.

Archwiliwch bynciau hanfodol fel cyllidebu personol, benthyca a chynilo arian, rheoli dyled, coginio ar gyllideb, technegau taenlenni, a mwy.

I wybod rhagor am y cyrsiau rhifedd hyn, gallwch gysylltu â multiply@gcs.ac.uk.

Gwnewch cais heddiw

Fel myfyriwr rhan-amser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallwch elwa ar staff profiadol a chyfleusterau gwych. Cewch fynediad hefyd i gymorth myfyrwyr a chyflogadwyedd, yn ogystal â llyfrgelloedd y Coleg.

Cyfoethogwch eich bywyd trwy addysg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch ym mis Ionawr i gael profiad dysgu ysbrydoledig.

Am fanylion ac i wneud cais, ewch i'n tudalen addysg oedolion.