Skip to main content

Addysg Oedolion

Yr hyn rydym yn ei gynnig i oedolion

P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs addas i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Dosbarthiadau nos a rhan-amser

Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.

Gweld cyrsiau rhan amser

Mynediad i Addysg Uwch

Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn addas i’r rhai sy’n 19 oed a hŷn a byddan nhw’n eich paratoi ar gyfer mynediad i addysg uwch.

Cyrsiau mynediad

Addysg Uwch

Astudiwch yn nes at eich cartref! Mae gyda ni gyrsiau addysg uwch wedi’u hachredu gan brifysgolion gyda darpariaeth hyblyg, costau is a llawer o gymorth.

Mwy am AU

Prentisiaethau

Earn while you learn with an apprenticeship. Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru.

Gweld prentisiaethau

Addysg Sylfaenol i Oedolion

Dewch i wella eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura. Magwch hyder ar gyfer gwaith, addysg bellach, neu ddatblygiad personol.

Mwy am ASO

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Rydym yn cynnig dosbarthiadau Saesneg am ddim (yn amodol ar gymhwystra) i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.

Mwy am ESOL

Eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau

Fel myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, bydd gennych fynediad llawn at ein staff profiadol sy’n gallu rhoi cyngor i chi ar gyrsiau, gyrfaoedd, cyflogadwyedd, materion personol neu faterion ariannol.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbenigol, megis help i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, arweiniad ar gyllid, adnoddau i ddatblygu’ch hyfedredd yn yr iaith Gymraeg, a mwy.

Mwy am Gymorth