Skip to main content

Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Integredig (BEng)

Prentisiaeth
Lefel 6
Tycoch, Arall
Pimp flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Caerdydd

Logo Prifysgol Caerdydd

Gallai modiwlau Lefel 6 gael eu hailddilysu.

Mae cyfle wedi codi i beirianwyr neu brentisiaid cyflogedig ennill gradd Anrhydedd Baglor Peirianneg nodedig gan Brifysgol Russel Group flaenllaw yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi partneru â Choleg Gŵyr Abertawe i gynnig y cyfle cyffrous hwn i weithwyr presennol neu staff newydd eu recriwtio i gyflawni gradd BEng Anrh Peirianneg Integredig wedi’i hachredu’n llawn yn rhan-amser dros 5 mlynedd. Mae’n cael ei hariannu’n llawn drwy gynllun Prentisiaeth Gradd newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig BEng yn adeiladu ar eich profiad cyflogaeth i ddatblygu’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen ar beiriannydd proffesiynol. Mae'r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau peirianneg fecanyddol, trydanol a chyfrifiadurol a'i bwriad yw cynhyrchu peirianwyr sydd â gwybodaeth eang ac sy’n fedrus mewn mwy nag un o’r disgyblaethau peirianneg traddodiadol. Bydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys prosiect diwydiannol sylweddol a myfyrio parhaus ar ddefnyddio’ch sgiliau yn y gweithle.

Modiwlau Lefel 4:

  • Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd ar gyfer Peirianneg
  • Peirianneg Mathemateg a Chyfrifiadura
  • Egwyddorion Trydanol
  • Egwyddorion Electronig
  • Egwyddorion Mecanyddol
  • Peirianneg Dechnegol.


Modiwlau Lefel 5:

  • Thermohylifau
  • Dylunio Cynhyrchion Integredig
  • Mathemateg Gymhwysol a Pheirianneg Reoli
  • Cymwysiadau Microreoli a Dylunio wedi’i Fewnblannu
  • Peirianneg Reoli
  • Defnyddiau a Gweithgynhyrchu
  • Electroneg Peiriannau a Phŵer.


Modiwlau Lefel 6:

  • Rheoli Cynhyrchion Peirianneg
  • Thermodynameg a Throsglwyddo Gwres
  • Rheolaeth Awtomatig
  • Electoneg Pŵer
  • Prosiect Diwydiannol (Seiliedig ar Waith).

Yn ogystal mae pedwar modiwl o’ch dewis chi.

Gwybodaeth allweddol

O leiaf cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc perthnasol (h.y. Safon Uwch neu gymhwyster Diploma Estynedig BTEC/EAL perthnasol mewn meysydd pwnc mathemategol, gwyddonol neu beirianegol) neu wybodaeth a phrofiad diwydiannol cyfwerth.

Sgiliau Mathemateg Lefel 3 (h.y. Safon Uwch Mathemateg neu BTEC/EAL Mathemateg Bellach neu wybodaeth ddiwydiannol gyfwerth).

Bod yn gyflogedig mewn rôl peirianneg mewn cwmni yng Nghymru sy’n gallu hwyluso prosiect peirianneg, ac a fydd yn eich rhyddhau am un diwrnod yr wythnos drwy gydol y 5 mlynedd.

Bydd darlithoedd yn digwydd un diwrnod yr wythnos dros bum mlynedd. Bydd y tair blynedd cyntaf (Lefel 4 a 5) yn cael eu haddysgu yn y Coleg a bydd y ddwy flynedd olaf (Lefel 6) yn cael eu haddysgu yn y Brifysgol.

Cewch diwtor personol sy’n aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd cysylltiedig â’ch cwrs gradd, yn ogystal â thiwtor yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a byddwch yn cwrdd â nhw yn unigol ac ar y cyd yn rheolaidd yn ystod pum mlynedd y rhaglen.

Cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau wedi’u gosod ar gamau priodol wrth i’r modiwl fynd yn ei flaen. Mae arholiadau’n cyfrif am 50-60% o’r holl asesiadau trwy gydol y rhaglen. Mae modiwl arferol yn cynnwys arholiad ar y diwedd, ynghyd ag aseiniad gwaith cwrs.

Wedi’i ariannu’n llawn trwy gynllun Prentisiaethau Gradd newydd Llywodraeth Cymru.

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y. teithio yn ôl ac ymlaen i’r Coleg, neu gostau llungopïo, nwyddau ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach), argraffu a rhwymo, gynau ar gyfer seremonïau graddio.