Skip to main content

Swyddog Pontio ac Adolygu

Mae’r Swyddog Pontio ac Adolygu yn gallu eich helpu fel a ganlyn:

  • Mynd i gyfarfodydd ysgol gyda chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid i ddod i’n hadnabod ni cyn dechrau
  • Llenwi’r ffurflen gais
  • Eich dangos o gwmpas y campws lle byddwch chi’n astudio
  • Trefnu sesiynau blasu
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod eich cyfnod pontio mor syml ag sy’n bosibl. Er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol, ymgynghorwyr Gyrfa Cymru, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol, timau meddygol a llawer mwy
  • Datblygu Proffil Un Dudalen i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod sut i’ch cefnogi yn y Coleg
  • Sicrhau eich bod yn ganolog i’ch cyfnod pontio’ch hun a bod eich llais yn cael ei glywed drwyddi draw.

Bydd y cymorth a gynigiwn ni i chi cyn cyrraedd yn parhau drwy gydol eich amser gyda ni a bydd yn parhau ar ôl i chi adael.

Swyddog Pontio SBA
Sarah Evans
Sarah.Evans@gcs.ac.uk

Swyddog Pontio Prif Ffrwd
Tracy Macklin
Tracy.Macklin@gowercollegeswansea.ac.uk