e-Chwaraeon
Trowch eich diddordeb mewn gemio yn yrfa ar gyfer y dyfodol! Mae e-chwaraeon yn sector deinamig, arloesol sy’n tyfu heb unrhyw arwyddion o arafu.
Cewch gyfle hefyd i ymuno â Gwdihŵs CGA, wrth iddynt barhau i wneud y penawdau ac ailddiffinio tirlun gemio cystadleuol. Rydym yn ymfalchïo yn hyn, gan feithrin etifeddiaeth o ragoriaeth ac arloesedd mewn e-chwaraeon.
Yn ystod eich amser yma, bydd trefniant rasio sim cystadleuol ar gael i chi, sydd wedi cael ei saernïo’n ofalus gyda phartneriaid diwydiant, GT Omega, Iiyama a Moza.
Ein Gradd Sylfaen mewn e-chwaraeon yw’r unig un o’i bath yng Nghymru! Bydd yn rhoi llawer o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i chi sy’n berthnasol i yrfaoedd eraill yn ogystal â byd e-chwaraeon.
Cyrsiau e-Chwaraeon
e-Chwaraeon - Gradd Sylfaen
Lefel 4/5
e-Chwaraeon Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 BTEC Extended Diploma